Beth Sy’n Cael Ei Ganiatáu
- Chwarae Senglau - dim cyfyngiadau
- Chwarae Dyblau - dim cyfyngiadau
Am gyfarwyddyd llawn edrychwch ar wefan Tennis Bwrdd Cymru.
http://ttwwebsite.co.uk/2020/09/08/coronavirus-covid-19-latest-advice-3/
Defnydd o Gyrtiau
- 10 munud rhwng archebion yn cael ei ddarparu i sicrhau cyfnod cyfnewid i gwsmeriaid – cofiwch gyrraedd ar amser a gorffen yr archeb ar amser. Mae’r sesiynau’n 50 munud o hyd.
- Ni chaniateir unrhyw wylwyr yn yr ardal weithgarwch.
- Ni fydd unrhyw gyfleusterau newid ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn barod i chwarae.
Gorchuddion Wyneb
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser yn y Ganolfan ar wahân i pan rydych chi’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu’n ymarfer
Cadw Pellter Cymdeithasol
- Cofiwch gadw 2m o bellter cymdeithasol (os yw hynny’n bosib) ym mhob rhan o’r Ganolfan.
- Dilynwch yr arwyddion mynedfa ac allanfa yn y Dderbynfa.
- Gadewch y Ganolfan yn brydlon ar ôl eich archeb.
Iechyd, Diogelwch a Hylendid
- Ni ddylai unrhyw un adael ei gartref i gymryd rhan mewn unrhyw ymarfer os oes ganddo ef, neu unrhyw un mae’n byw gydag ef, symptomau COVID -19, sy’n cael eu hadnabod ar hyn o bryd fel: - Tymheredd uchel – Peswch newydd, parhaus – Colli, neu newid, i’w synnwyr arogli neu flasu.
- Mae diheintydd dwylo ar gael ym mhob rhan o’r ganolfan. Cofiwch ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl i chi ymweld â’r Ganolfan.
- Mae chwistrell glanhau a thyweli papur yn cael eu darparu. Cofiwch sychu unrhyw arwynebau ar ôl chwarae (e.e. unrhyw offer rydych yn ei gyffwrdd h.y. pyst rhwydi, cadeiriau, offer personol).
Offer
- Rhaid storio unrhyw fagiau yn ofalus ar ochr y cwrt rydych chi’n chwarae arno.
Hyfforddiant
- Rhaid i hyfforddwyr Tennis Bwrdd ddilyn cyfarwyddyd Tennis Bwrdd Cymru ar gyfer hyfforddi gweithgarwch bob amser.
Cymorth Cyntaf ac Argyfyngau
- Os oes arnoch chi angen cymorth cyntaf neu gymorth staff, ewch i’r Dderbynfa neu ein ffonio ni ar 0300 300 3123.