Skip to main content

Gwefannau

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n troi at y rhyngrwyd nawr am wybodaeth. Dyma pam mae gwefan (waeth pa mor sylfaenol) yn adnodd cyfathrebu da.

  • Does dim angen gradd mewn rhaglenni cyfrifiadurol i sefydlu gwefan syml i’ch clwb a does dim angen cyllideb fawr chwaith! Yn wir, mae posib gwneud hyn yn gyflym iawn ac am ddim.
  • Y cyfan yw gwefan yw tudalen neu gyfres o dudalennau o wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd.
  • I ddechrau, edrychwch i weld a oes gan eich clwb wefan eisoes, neu fynediad at un. Weithiau mae gan awdurdodau lleol a chyrff rheoli adnoddau ar eu gwefannau sy’n caniatáu i chi gyflwyno gwybodaeth am eich clwb ac am unrhyw gyfleoedd sydd gennych chi.
  • Os ydych chi eisiau creu gwefan am ddim, defnyddiwch Blogger neu Wordpress. Cewch ddewis eich cynllun a dechrau ychwanegu gwybodaeth am eich clwb ar unwaith!
  • Os oes gennych chi arian i’w wario, mae llawer o gwmnïau sy’n gallu creu gwefan o’r dechrau un.
  • Cadwch bethau’n syml a chofiwch gynnwys yr holl wybodaeth allweddol.
  • Meddyliwch am y wybodaeth ddylai’r wefan ei chynnwys. Rhestrwch y tudalennau rydych eu hangen a chynlluniwch sut byddant yn cael eu trefnu.
  • Cofiwch wneud yn siŵr bod eich gwefan yn gwneud i bobl deimlo bod croeso cynnes iddyn nhw ddod i sesiwn am y tro cyntaf.