Skip to main content

Cyflwyniad i'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant Cwestiynau ac Atebion

  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Llywodraethu
  4. Fframwaith symud at gynhwysiant
  5. Cyflwyniad i'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant Cwestiynau ac Atebion

Cwestiynau ac Atebion:

1. Ai ar gyfer CRhC a sefydliadau mawr yn unig y mae'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant wedi'i gynllunio? Sut mae'r Fframwaith hwn yn trosi i lawr i glybiau (ar lawr gwlad)? 

Mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn amlbwrpas ac wedi cael ei gynllunio i fod yn bwrpasol ar gyfer sefydliadau o wahanol feintiau, galluoedd a chapasiti. Mae'r Fframwaith yn disodli'r Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon flaenorol, a wnaed ar gyfer CRhC a sefydliadau chwaraeon mwy.

Yn sicr mae rhai elfennau o’r Fframwaith a fyddai’n berthnasol i glybiau ar lawr gwlad, a byddem yn eu hannog i ymgysylltu a rhoi adborth ar sut gellid ei wneud yn fwy priodol. Efallai y bydd cyfle i archwilio fersiwn y gellid ei ddatblygu ledled y DU ar gyfer clybiau yn y dyfodol, felly byddai unrhyw adborth ar hyn yn ddefnyddiol, ac yn cael ei groesawu’n fawr.

Mae rhai pecynnau adnoddau wedi’u sefydlu eisoes y gall clybiau eu defnyddio i’w cefnogi i ddatblygu eu darpariaeth gynhwysol ar gyfer grwpiau penodol sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig. Er enghraifft, mae gan ChAC insport Clwb sydd â’r nod o gefnogi'r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu yn gynhwysol ar gyfer pobl anabl, ac mae Siarter LGBT+ Sport Cymru yn cefnogi arfer gorau ar gyfer darparu chwaraeon sy'n gyfeillgar i bobl LHDT. Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi clybiau i symud ymlaen drwy'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant os datblygir fersiwn ar gyfer clybiau.

2. Sut gall partneriaid ymgysylltu a gwrando ar leisiau'r rhai nad ydynt wedi'u cynnwys yn y gamp / sefydliad? Sut gellir eu cynnwys yn natblygiad cynhwysiant mewn chwaraeon?

Yn ddelfrydol, byddai’r adnodd diagnostig yn eistedd o fewn strwythur llywodraethu sefydliadol ehangach a fyddai’n darparu craffu a her i hunanasesiad a sgorio eich sefydliad. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'ch sefydliad gymryd perchnogaeth ac atebolrwydd am eich cynllun gweithredu dilynol a’ch ymrwymiadau ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Bydd yn bwysig i sefydliadau sicrhau eu bod yn cael safbwyntiau'r holl gyfranogwyr, a'r rhai nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd a allai fod eisiau cymryd rhan. Dylai’r Fframwaith helpu i roi cyfarwyddyd i sefydliadau ar y ffordd orau o ymdrin â hyn, ac mae fideo cefnogol wedi’i gynnwys ar yr Hwb i gynnig arweiniad.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn parhau i ehangu eu pecyn adnoddau dros amser i helpu fel sail i arfer; yn y cyfamser, fe allwch chi wneud y canlynol:

Mae’r Cynghorau Chwaraeon yn croesawu syniadau ar ddatblygu adnoddau cefnogol i wella a datblygu’r Hwb yn lleoliad canolog ar gyfer EDI.

3. Oes rhaid i ni wneud y Fframwaith Symud at Gynhwysiant ac insport, neu a allwn ni wneud y naill neu'r llall?

Nid yw Symud at Gynhwysiant (fel y Safon Cydraddoldeb) ac insport yn bethau y naill neu'r llall. Datblygodd Chwaraeon Anabledd Cymru insport i weithredu fel cyfres o becynnau adnoddau a fyddai’n helpu partneriaid i ddarparu’n well ar gyfer eu haelodau / staff / gwirfoddolwyr anabl presennol neu newydd. Mae insport CRhC ac insport 3ydd Sector yn becynnau adnoddau y gellir eu defnyddio os ydych chi wedi nodi nad yw pobl anabl yn cael eu cynrychioli cymaint o fewn eich aelodaeth neu eich sefydliad ag y dylent fod, neu yr hoffech iddynt fod. Mae ChAC wedi mapio’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn erbyn insport, felly os ydych chi’n gweithio gyda nhw ar insport CRhC (a bod gennych chi Swyddog Achos eisoes felly), byddant yn gallu eich cyfeirio at ba feysydd o’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant mae eich cyflawniad o amcanion insport CRhC / insport 3ydd Sector yn cysylltu â hwy.

Gallwch ymgysylltu â’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant heb wneud insport CRhC neu insport 3ydd Sector, fodd bynnag bwriad insport yw eich cefnogi chi i symud ymlaen drwy’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant lle mae angen i chi wybod sut i wneud newidiadau er gwell gyda phobl anabl fel sylfaen.

4. Sut ydyn ni'n gwybod pryd y byddwn yn cael mentor?

Cysylltwyd ag ystod o bartneriaid ar gyfer blwyddyn 1 yn seiliedig ar flaenoriaethau a nodwyd drwy Ffurflenni Partneriaeth a'u capasiti, eu gallu a'u hyder i ymgysylltu â'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant. Bydd y partneriaid hyn yn cael cynnig cymorth mentor a byddant yn rhoi adborth ar y broses a’r dull gweithredu er mwyn helpu i ddylanwadu ar y ffordd y mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu ac yn gweithio gyda phartneriaid ym mlynyddoedd 2 a 3+ o gyflwyno’r Fframwaith.

Gall pob partner a sefydliad chwaraeon gael mynediad at y Fframwaith drwy ddull hunangyfeirio a bydd llawer o adnoddau cefnogol ar gael i'w helpu mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Bydd data a gwybodaeth a gesglir gan sefydliadau sy'n ymgysylltu â'r Fframwaith yn helpu i arwain y Cynghorau Chwaraeon i ddatblygu adnoddau a sesiynau perthnasol a phriodol ynghylch y meysydd blaenoriaeth EDI a nodwyd.

Y partneriaid sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer cefnogaeth un i un a mentor grŵp yw Bowls Cymru, Nofio Cymru, yr Urdd, Chwaraeon Anabledd Cymru, Tennis Bwrdd Cymru, Criced Cymru, Beicio Cymru, Partneriaeth Chwaraeon y Gorllewin, Tennis Cymru, Bocsio Cymru ac Athletau Cymru.

Os byddai unrhyw bartneriaid nad ydynt yn cael sylw uchod yn awyddus i gael cymorth mentor ym mlwyddyn 2 (o fis Ebrill 24 ymlaen), gallant fynegi eu diddordeb drwy [javascript protected email address]

Byddem yn annog yr holl bartneriaid sy’n teimlo’n barod i ymgysylltu â’r Fframwaith, nad ydynt yn cael cymorth mentor yn y lle cyntaf, i wneud hynny drwy’r dull hunangyfeirio, a bydd mentoriaid ar gael hefyd i sefydliadau hunangyllido pe baent yn dymuno archwilio hyn fel opsiwn. Gall mentoriaid gamu i mewn a chynnig archwiliad a her gefnogol ar unrhyw adeg yn ystod siwrnai Symud at Gynhwysiant partner.

Cofiwch hefyd bod llawer o’n Sefydliadau Partner yn darparu adnoddau, cymorth a chefnogaeth ym meysydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, felly cadwch mewn cysylltiad â nhw hefyd.

5. Sut gallwn ni (partneriaid) gyflawni ‘Rhagoriaeth mewn Cynhwysiant’ a sut bydd hyn yn cael ei asesu?

Mae Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon a’r Strwythurau Chwaraeon sy’n rheoli prosiect y Fframwaith Symud at Gynhwysiant wrthi’n trafod datblygu ‘Rhagoriaeth mewn Cynhwysiant’, sydd bellach wedi’i ailenwi yn ‘Dathlu Cynhwysiant’.

Mae’r broses ‘Dathlu Cynhwysiant’ eto i’w chadarnhau a bydd y cynghorau chwaraeon yn rhannu manylion unwaith y bydd y Fframwaith wedi’i lansio.

Yr hyn y gallwn ei ddweud yw mai nod ‘Dathlu Cynhwysiant’ yw gwneud yn union yr hyn mae’n ei ddweud – cydnabod, rhannu a dathlu mentrau a llwyddiannau sy’n flaenllaw yn y sector, fel bod sefydliadau’n cael y cyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gymunedau ymarfer.

Gallwch chi ddatblygu a dathlu cynhwysiant mewn ffyrdd eraill hefyd wrth i ni gadarnhau’r dull gweithredu y byddwn yn ei ddefnyddio drwy:

6. Pa gymorth ariannol sydd ar gael i bartneriaid, yn enwedig y rhai bach a chanolig eu maint a'u capasiti?

Bydd y gyllideb ar gyfer y Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn cael ei defnyddio ar gyfer cymorth mentora i bartneriaid, datblygu adnoddau cefnogol, gweminarau a gweithdai, datblygu'r Hwb ar-lein, asesiadau 'Dathlu Cynhwysiant', yn ogystal â digwyddiadau a fforymau dysgu a rhannu.

Mae nifer o fentoriaid wedi cael eu recriwtio i arwain nifer o bartneriaid ym mlwyddyn 1 drwy'r Fframwaith a'r adnodd diagnostig. Bydd y broses hon yn parhau bob blwyddyn gyda’r nod o ddarparu cymorth mentor i’n holl bartneriaid yn ystod y blynyddoedd nesaf.

7. Sut ydyn ni'n gwybod a ydyn ni'n bod yn gynhwysol fel sefydliad?

Mae'r Fframwaith wedi'i gynllunio i bartneriaid gwblhau cylch o hunanadlewyrchu a gwelliant parhaus i greu newid a chynyddu cynhwysiant. Bydd yr adnodd hwn yn helpu sefydliadau i adlewyrchu'n barhaus ar bwy maent yn ymgysylltu â hwy ar hyn o bryd a lle gallai'r bylchau fod yn eu cymuned chwaraeon.

Rydym yn annog ein holl bartneriaid i ddefnyddio'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant fel ffordd o wirio a herio eu hunain drwy geisio adborth mewnol ac allanol a chasglu darlun cyfannol o sefyllfa eu sefydliad o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd cefnogaeth i ddatblygu eich ymarfer yn y meysydd hyn yn cael ei darparu gan y mentoriaid a phartneriaid cydraddoldeb.

Bydd sefydliadau’n gallu dangos cynhwysiant sydd wir wedi’i ymgorffori drwy asesiad drwy ‘Dathlu Cynhwysiant’. Unwaith y gall sefydliadau sgorio’r uchafswm ym mhob un o’r pileri, byddant yn gwybod eu bod wedi sefydlu diwylliant o gynhwysiant yn eu sefydliad y gallant barhau i’w gynnal, ei ddatblygu ac adlewyrchu arno.

8. Byddai'n wych pe gallem weld trosolwg gweledol cyfunol o'r cynnydd rydyn ni a phartneriaid eraill wedi'i wneud ledled Cymru a / neu'r DU o ran cynhwysiant, a fydd hyn yn cael ei gynnwys yn y Fframwaith?

Mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn annog cydweithredu lle gall grwpiau cyfunol ddod at ei gilydd i rannu arfer da a dysgu, er mwyn cefnogi ei gilydd ar hyd eu siwrnai at gynhwysiant. Mae hyn hefyd yn rhywbeth sydd ar gael drwy sefydliadau partner eraill gan gynnwys Sported, StreetGames a Chwaraeon Anabledd Cymru.

Er nad oes ffurf weledol ar gael ar hyn o bryd ar yr Hwb Symud at Gynhwysiant sy’n manylu ar sefyllfa gyffredinol partneriaid yng Nghymru a ledled y DU yn erbyn pileri’r Fframwaith, mae hyn yn rhywbeth y bydd Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon yn ei drafod a gweld a oes potensial i’w ddatblygu. Bydd Hwb Symud at Gynhwysiant yn cael ei adolygu’n barhaus a bydd croeso mawr i unrhyw adborth ar sut gallwn ei ddatblygu ymhellach a’i wneud yn fwy defnyddiol.

9. Sut gall sefydliadau weithio ar draws ffiniau i esblygu a datblygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth fynd drwy'r Fframwaith?

Mae Cynghorau Chwaraeon y DU yn annog chwaraeon i estyn allan at eu partneriaid yn annibynnol i gydweithredu ar y Fframwaith. Bydd Cynghorau Chwaraeon y DU yn creu gweithdai grŵp a bydd cyfleoedd dysgu y gall unrhyw bartner ledled y DU fanteisio arnynt. Mae hyn yn golygu y gall sawl sefydliad trawsffiniol fod yn bresennol a threialu gwahanol agweddau ar y Fframwaith gyda’i gilydd. Mae hyn yn ategu modelau tebyg eraill a sefydlwyd yng Nghymru a’r DU lle mae dysgu sylweddol yn cael ei rannu drwy drafodaethau grŵp, rhwydweithio, sesiynau Swyddogion Arweiniol, cynadleddau a gweithdai. Os hoffai CRhC ar draws y DU gydweithio, byddem yn eu hannog i estyn allan at eu cyngor chwaraeon priodol i drafod hyn ymhellach.

Bydd data a dadansoddeg o'r adnodd diagnostig yn dangos themâu a phatrymau sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r cynghorau chwaraeon greu cymorth wedi’i dargedu i grwpiau o sefydliadau a fyddai’n elwa o gydweithio, fel y rhai sy’n llywodraethu chwaraeon tebyg, sydd â nodau tebyg, neu sydd wedi nodi’r un meysydd blaenoriaeth wedi’u targedu.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn datblygu eu cefnogaeth i bartneriaid ar draws ffiniau yn barhaus ar ôl i'r Fframwaith gael ei lansio a byddem yn croesawu sylwadau gan sefydliadau ar sut hoffent gydweithio.

10. Pa rôl y mae Chwaraeon Cymru yn gweld y sefydliadau Partner Cenedlaethol yn ei chwarae yn y Fframwaith Symud at Gynhwysiant newydd ochr yn ochr â’r mentoriaid?

Bydd y partneriaid cydraddoldeb ar draws cynghorau chwaraeon y DU yn cael sylw ar yr Hwb Symud at Gynhwysiant gan fanylu ar eu maes arbenigol ynghyd â dolenni i’w gwefannau, ac unrhyw adnoddau cefnogol y gall sefydliadau gysylltu ac ymgysylltu â hwy. Bydd y partneriaid cydraddoldeb hyn, sef yr asiantaethau arweiniol ar gyfer cymunedau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, yn gallu cynnig cyfleoedd i ddysgu a chydweithio â sefydliadau chwaraeon eraill drwy rannu arbenigedd a chaniatáu mynediad at eu hadnoddau gwerthfawr.

Er enghraifft, os yw sefydliad yn nodi pobl anabl fel maes ffocws â blaenoriaeth, bydd yn cael ei annog i gysylltu â Chwaraeon Anabledd Cymru ac insport. Pecyn adnoddau yw insport sy'n cynnig fframwaith o nodau i gefnogi'r sector i gryfhau cynhwysiant anabledd a chynnwys pobl anabl yn eu sefydliadau a'u rhaglenni. Gallwch ddarllen mwy am raglen insport yma.

Nid yw'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant wedi'i ddatblygu i gystadlu ag adnoddau, safonau, neu fframweithiau eraill y mae partneriaid eisoes yn ymgysylltu â hwy. Mae wedi cael ei ddatblygu i ategu a gweithio ochr yn ochr â hwy, yn enwedig wrth i bartneriaid nodi meysydd blaenoriaeth penodol ar draws y 5 piler a fydd yn rhan o’u cynllun gwelliant parhaus.

Mae partneriaid arweiniol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gwrdd â mentoriaid Symud at Gynhwysiant i drafod eu harbenigeddau a sut byddant yn cydweithio ac yn ymestyn eu cefnogaeth i’r sector unwaith y bydd y Fframwaith wedi’i lansio. Ar gyfer Partneriaid Cenedlaethol, bydd y Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn adnodd cefnogol iddynt ymgysylltu ag ef ar gyfer eu datblygiad cynhwysol eu hunain, yn ogystal â strwythur y byddant yn ei ddefnyddio i roi cymorth i eraill.

11. Beth yw'r amserlen ar gyfer lansio'r adnodd diagnostig a'r Fframwaith?

Mae’r cynghorau chwaraeon yn gobeithio lansio’r Fframwaith a’r adnodd hunanddiagnostig drwy’r Hwb Symud at Gynhwysiant ym mis Medi 2023. Mae fideo defnyddiol ar yr Hwb sy’n canolbwyntio’n benodol ar yr adnodd hunanddiagnostig a’r gwahanol ddulliau y gall sefydliadau eu defnyddio i sgorio eu hunain yn gywir ac yn briodol gan sicrhau bod pob safbwynt yn cael ei ystyried.

Unwaith y bydd y Fframwaith yn fyw, bydd partneriaid yn cael eu hysbysu gyda dolen i roi mynediad i’r Hwb Symud at Gynhwysiant.

12. Ydi'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn orfodol ar gyfer CRhC a phartneriaid yng Nghymru?

Nid yw'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn orfodol ar gyfer CRhC a phartneriaid yng Nghymru. Fel rhan o'r adolygiad o'r Fframwaith Gallu, bydd y Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn cael ei ystyried, fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'n annhebygol y bydd yn rhan o hyn.

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod nifer o adnoddau a fframweithiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael y gallai partneriaid fod eisiau ymgysylltu â hwy, felly nid ydym yn ystyried gwneud hwn yn opsiwn gorfodol ar hyn o bryd.

Gallwch wrando ar recordiad o un o'r briffiau partner drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Briff Partneriaid Fframwaith Symud at Gynhwysiant