Skip to main content

Dull

Fframwaith gwerthuso

Cwestiynau ymchwil

Roedd y cwestiynau ymchwil a ddyluniwyd gan Chwaraeon Cymru i werthuso’r rhaglen fel a ganlyn:

  • Beth sy’n galluogi ysgol i ddod yn lleoliad addysg actif?
  • Beth yw effaith ysgol yn dod yn lleoliad addysg actif?
    • Yr effaith mae’n ei chael ar y weledigaeth ar gyfer chwaraeon a strategaeth Chwaraeon Cymru
    • Yr effaith mae’n ei chael ar lefelau gweithgarwch corfforol
    • Yr effaith mae’n ei chael ar flaenoriaethau addysg gan gynnwys presenoldeb
  • Beth all sicrhau bod y dull addysg actif o weithredu’n dod yn gynaliadwy ac yn cael ei ymgorffori mewn cynlluniau datblygu ysgol?

Cyfrifoldebau

Cynlluniwyd a datblygwyd y gwerthusiad yn bennaf gan Chwaraeon Cymru. Comisiynwyd WIPAHS yn dilyn proses dendro gystadleuol ym mis Mawrth 2022 (chwe mis ar ôl i’r prosiect ddechrau) ac ar ôl eu penodi darparwyd mewnbwn i ddeunyddiau’r prosiect a’r adnoddau casglu data i’w siapio a’u mireinio ymhellach.

Casglu Data

Defnyddiodd yr astudiaeth hon gynllun dulliau cymysg, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau casglu data (edrychwch ar Focs 2). Ar ddechrau’r rhaglen, oherwydd natur y gwaith yr oedd yr ysgolion yn ceisio ei wneud, dewiswyd tair ysgol i gymryd rhan yn y gwerthusiad fel ysgolion hydredol. Roedd hyn yn golygu bod y tair ysgol yma wedi cymryd rhan mewn mesurau ychwanegol dros sawl pwynt amser. Derbyniodd pob ysgol gymorth ariannol i ryddhau staff ysgol i gymryd rhan mewn agweddau monitro a gwerthuso ar y rhaglen. Ceir rhagor o fanylion am bob un o’r dulliau casglu data yn Atodiad 1.

Dulliau casglu data

  1. Mynegi diddordeb
  2. Fforymau ysgol
  3. Cofnodion dysgu
  4. Cofrestri presenoldeb
  5. Cyfweliad strwythuredig staff
  6. Arolwg lefel plentyn

Mesurau ychwanegol ar gyfer tair ysgol hydredol

  1. Cyfweliadau lled-strwythuredig staff
  2. Grwpiau ffocws plant