Roedd uchafbwyntiau, isafbwyntiau, arwyr newydd a hen ffyddloniaid yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn 2021 - ond roedd y stori mewn gwirionedd yn ymwneud â goroesi.
Ac nid dim ond goroesiad y cryfaf, chwaith. Roedd goroesi fel rhywun brwd dros chwaraeon eleni yn ymwneud â gallu i addasu a gwytnwch.
Os oeddech chi'n athletwr o Gymru’n ennill aur yn y Gemau Olympaidd fel y focswraig Lauren Price, neu'n rhywun eisiau mynd i nofio neu am gêm o bowls yn eich canolfan chwaraeon leol, penderfyniad a dyfalbarhad oedd yn bwysig.
Daeth byw mewn pandemig yn ffordd o fyw yn 2021. Roedd rhaid i chi addasu a bod yn ddyfeisgar os oeddech chi eisiau aros ar y trywydd iawn.
Fe allem ni ddechrau gyda Lauren, a'i medal aur wych yn y bocsio yn y Gemau wedi’u gohirio yn Tokyo, ond efallai y dylai'r man cychwyn gwirioneddol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru fod mewn gardd gefn fechan yn Sir Gaerwrangon.
Yno y treuliodd Matt Richards fisoedd cyn y Gemau Olympaidd mewn pwll padlo anferth a adeiladwyd gartref, gan nofio am oriau bob dydd.
Roedd Matt a’i dad Simon wedi rigio llinyn bynji o amgylch gwasg yr arddegyn, ei folltio i’r wal gefn, a chreu melin gerdded ddyfeisgar.
Roedd yn golygu y gallai ddal i nofio pan gaewyd yr holl byllau yn ystod y cyfnod clo. Athrylithgar. Pa well stori i grynhoi chwaraeon yn 2021?
Gwobr seren 19 oed Nofio Cymru oedd y fedal aur dros Brydain Fawr yn y ras gyfnewid dull rhydd 4 x 200m.
Os oedd hynny'n anhygoel, efallai bod un o straeon mwyaf teimladwy'r flwyddyn wedi dod eiliadau ar ôl i'w dîm ennill.
Roedd pedwar dyn wedi sefyll ar y podiwm, ond roedd pumed wedi ennill aur fel rhan o'r sgwad. Cyflwynwyd ei aur i Calum Jarvis, aelod o dîm Matt yn Nofio Cymru, gan y pedwar arall gefn llwyfan, a diolch byth, roedd camera yno i gofnodi’r foment.
Roedd buddugoliaethau eraill i Gymru yn Tokyo, a rhywfaint o siom hefyd. Dyna natur chwaraeon.
Hwyliodd Hannah Mills ei ffordd i aur yn nosbarth 470 y merched, ochr yn ochr ag Eildh McIntyre. Roedd yn ail aur Olympaidd yn olynol i Hannah ac adlewyrchwyd ei statws yn y gamp yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn pan gafodd ei dewis yn Hwylwraig y Flwyddyn y Byd.
Ond er mawr sioc i bawb, cafodd Jade Jones - a oedd yn ymgeisio am drydydd aur Olympaidd yn olynol – ei threchu yn y taekwondo ac ildiodd ei theitl Olympaidd.
Roedd gofyn felly i Lauren Williams roi Cymru ar y map byd-eang drwy gipio arian, cyflawniad a ddathlodd yr ymladdwraig o’r Coed Duon ond gan gyfaddef “nad dyna’r lliw ddois i yma i’w ennill”.
Ymhlith enillwyr medalau eraill Cymru yn Tokyo roedd y feicwraig Elinor Barker, a gipiodd arian fel rhan o weithgaredd tîm y merched.
Ac nid hwnnw oedd ei diwrnod mwyaf cofiadwy yn 2021 hyd yn oed. Datgelodd yn ddiweddarach ei bod yn feichiog, a’i bod yn feichiog pan enillodd ei medal!
Cipiodd Tom Barras, a ddaeth i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, fedal arian yn y rhwyfo yn y sgwlio i bedwarawdau, a chipiodd ei gyd-rwyfwyr o Gymru, Oliver Wynne-Griffith a Josh Bugajski, efydd yng nghriw wyth y dynion.
O'r diwedd, cafodd Leah Wilkinson a Sarah Jones - sydd wedi treulio blynyddoedd yn lledaenu'r efengyl ar ran hoci Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad – eu gwobrwyo ar lefel Olympaidd, gan ennill medal efydd gyda sgwad merched Prydain Fawr.