Skip to main content

Ambell brawf newydd i Rygbi’r Gynghrair Cymru

Efallai bod Cymru a Chwpan Rygbi'r Byd yn hoelio sylw'r genedl gyfan bron ar hyn o bryd, ond mae cod arall y gamp yn gweithio'n galed iawn i gael ychydig o sylw hefyd.

Mae Rygbi'r Gynghrair yng Nghymru wedi wynebu her erioed i beidio â byw yng nghysgod rygbi'r undeb ac efallai mai'r tymor yma fydd y mwyaf eto os bydd tîm Warren Gatland yn mynd bob cam i'r ffeinal yn Japan.

Ond mae gan y fersiwn arall o'r gêm - un sy'n cael ei chwarae gyda 13 yn hytrach na 15 o chwaraewyr - wreiddiau dwfn yng Nghymru erbyn hyn ac mae'n gwybod sut i ddal ei thir.

Bydd tîm o Gymru sy'n cynnwys un o sêr ifanc disgleiriaf yr Uwch Gynghrair, Regan Grace, yn Awstralia y mis yma ar gyfer Cwpan y Byd y Timau Naw - fersiwn naw bob ochr o rygbi'r gynghrair - sy'n dechrau yn Sydney ar Hydref 18.

Dyma pryd bydd Cymru'n dechrau ar ei hymgyrch yn erbyn Ffrainc, gyda gemau grŵp yn erbyn Lloegr a Lebanon wedyn. Hefyd mae carfan Cymru'n cynnwys ymgyrchwyr profiadol fel Elliot Kear, Rhys Williams a Ben Flower.

Mae'n dwrnamaint newydd ac felly mae'r rhestri gemau rhyngwladol ar gyfer y fersiwn llawn 13 bob ochr o'r gêm wedi cael eu gadael yn glir - sy'n golygu nad oes gan Gymru gemau Prawf o gwbl yr hydref yma.

Ond dylai hynny roi cyfle am fwy o ffocws ar dîm rygbi'r gynghrair newydd merched Cymru, sy'n paratoi ar gyfer chwarae am y tro cyntaf yr hydref yma.

Ddydd Sadwrn Hydref 26, ar y Gnoll, Castell-nedd, bydd hanes yn cael ei greu pan fydd merched Cymru'n herio Athrawon Prydain Fawr yn eu gêm gyntaf. Mae'n garreg filltir i rygbi'r gynghrair, gydag ail gêm - a'r Prawf cap cyntaf - yn erbyn Llewesau Lloegr, ar Dachwedd 16 mae'n bur debyg, yn Leigh.

Cynhaliodd y prif hyfforddwr Craig Taylor dreialon ar gyfer mwy na 50 o chwaraewyr posib cyn dewis ei garfan o 24 o chwaraewyr.

"Rydw i wedi ymwneud â rygbi cynrychioliadol ers sawl blwyddyn bellach a hwn oedd un o'r dyddiau gorau i mi eu cael mewn treialon," meddai Taylor.

"Ar sail y diwrnod hwnnw, mae dyfodol rygbi'r gynghrair yng Nghymru'n ddisglair iawn.

"Rydw i wedi bod mewn cysylltiad â nhw i gyd yn barod, yn anfon gwaith cartref - fideos i'w gwylio ac i roi adborth. Mae pawb mor frwdfrydig."

Mae Rafiuke Taylor - un o'r 14 o chwaraewyr gyda Dreigiau Gleision Caerdydd yn y garfan - wedi ennill pum cap yn chwarae rygbi'r undeb dros Gymru rhwng 2013 a 2014 ac felly gallai fod y chwaraewraig rygbi cod deuol ryngwladol gyntaf yng Nghymru.

Ar lefel grŵp oedran, mae gan Gymru garfan genedlaethol D19, sy'n cael ei hyfforddi gan gyn chwaraewr Cymru, Anthony Walker, yn ogystal â thîm D16 sy'n gallu brolio mai'r cawr ar lefel Prydain Fawr, Lee Crooks, yw eu hyfforddwr.

Ond nid dim ond yr elfen ryngwladol yn rygbi'r gynghrair Cymru sy'n esblygu. Ar lawr gwlad ac ar lefel clwb, mae pethau'n dechrau newid.

Mae gêm glwb y dynion wedi cael anhawster erioed gyda chynnal uwch gynghrair gartref gyda dyfnder a safon yng Nghymru, ond mae'r cynghreiriau wedi blodeuo ar lefelau Dan 12, Dan 14 a Dan 16 y tymor yma.

Mae llawer o'r ieuenctid yma'n chwarae'r ddau god o rygbi - undeb a chynghrair - sy'n wahanol iawn i 25 mlynedd yn ôl pan oedd y ddwy gamp yn gweithredu mewn bydoedd cwbl ar wahân.

Mae'r ddau brif glwb yng Nghymru - Crusaders Gogledd Cymru (Wrecsam) a Raiders Gorllewin Cymru (Llanelli) - yn chwarae yng Nghynghrair Un, trydedd haen rygbi'r gynghrair proffesiynol, ac roedd yr haf yma'n un nodedig i'r Raiders a enillodd eu gêm gynghrair gyntaf gan roi terfyn ar golli 44 gêm yn olynol.

Ar y lefel is, y gêm gymunedol, mae gwendid cynghrair gartref Cymru wedi arwain at Ddreigiau Gleision Caerdydd a'r Valley Cougars - sy'n chwarae yn Nelson a Threharris - yn ymuno â chynghrair newydd o'r enw'r Southern Conference.

Mae'n gyfle i'r ddau glwb o Gymru godi safonau a chynyddu incwm, drwy chwaraeon ochr yn ochr â chlybiau gorau Lloegr ar y lefel honno.

Mae timau rygbi'r gynghrair i fyfyrwyr i'w gweld erbyn hyn ym Met Caerdydd ac ym Mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Mae Coleg Y Cymoedd, yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, yn cynnig cwrs astudio llawn amser mewn rygbi'r gynghrair hyd yn oed - yr unig un yn y wlad.

Hefyd mae gan Gymru dîm cynrychioliadol o'r gêm gymunedol erbyn hyn, sef y Dragonhearts, sy'n chwarae'r Lionhearts o Dde Lloegr yng Nghastell-nedd ar yr un diwrnod â'r gem gyntaf honno i ferched Cymru ar Hydref 26.

Yn ogystal, mae carfan cadair olwyn Cymru wedi chwarae gemau yr hydref yma, gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Alban ond colli ddwywaith yn erbyn Lloegr.

Dywedodd prif weithredwr newydd Rygbi'r Gynghrair yng Nghymru, Gareth Kear: "Rydw i wrth fy modd gyda phob math o chwaraeon, ac yn enwedig rygbi'r gynghrair, oherwydd mae wastad wedi bod yn agored ac yn gynhwysol i bob rhan o'r gymuned.

"Gan weithio gyda'n partneriaid strategol, Chwaraeon Cymru, gall rygbi'r gynghrair helpu i'n gwneud ni'n genedl fwy actif a sicrhau mwynhad oes o chwaraeon i bawb."

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Sêr Cwpan Rygbi'r Byd Cymru a'u clybiau rygbi cymunedol

Dyma glybiau cymunedol aelodau carfan Cwpan Rygbi'r Byd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Darllen Mwy

Siwrneiau Pêl Rwyd gyda thair o chwaraewyr Plu Cymru

I chwaraewyr Plu Cymru, dyma uchafbwynt eu gyrfaoedd a phenllanw blynyddoedd o ymdrechu.

Darllen Mwy

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy

Hwylio I’r dyfodol

O ran hwylio, dydi pawb ddim yn yr un cwch, felly mae'r gamp yn newid i gwrdd â gofynion a diddordebau…

Darllen Mwy