Skip to main content

Chwaraeon Cymru yn cyllido clwb pêl osgoi cymunedol cyntaf Cymru ar gyfer plant

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn cyllido clwb pêl osgoi cymunedol cyntaf Cymru ar gyfer plant

Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu i sefydlu clwb pêl osgoi cymunedol cyntaf Cymru i blant ym Mhontypridd.

Mae gan Glwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda dîm oedolion ers pum mlynedd, ond mae’r clwb bellach wedi ehangu i ddarparu ar gyfer y niferoedd mawr o blant a hoffai chwarae pêl osgoi y tu allan i’r ysgol. 

Dyfarnwyd £770 i’r clwb o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru – sy’n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol – i helpu’r adran iau newydd i gael ei sefydlu. Fel clwb newydd, roedden nhw’n gymwys i gael cyllid i dalu am werth deg wythnos o logi neuadd chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Hawthorn, a hefyd fe wnaethon nhw ddefnyddio eu grant i brynu offer newydd ac i dalu am gyrsiau hyfforddi i uwchsgilio eu gwirfoddolwyr. 

Mae pêl osgoi wedi bod yn ffefryn mawr mewn ysgolion ers blynyddoedd lawer, a chafodd sgôr uchel yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru a oedd yn casglu barn plant ledled y wlad am yr hyn maen nhw’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi am chwaraeon. Mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod 101,000 o blant yng Nghymru a fyddai'n hoffi mwy o gyfleoedd i chwarae pêl osgoi. 

Roedd sylfaenydd Clwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda, Scott Esnouf, yn awyddus i fanteisio ar y diddordeb hwnnw drwy roi cyfle i bobl ifanc ymuno â chlwb cymunedol sydd hefyd yn cynnig llwybr iddyn nhw barhau i fwynhau’r gamp fel oedolion. 

Dywedodd Scott: “Mae pêl osgoi yn ffefryn mawr mewn ysgolion, felly roeddwn i eisiau sefydlu adran iau yn ein clwb ni ac roedden ni wrth ein bodd yn derbyn cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol. 

"Am yr ychydig fisoedd cyntaf, roedden ni'n cael llond llaw o blant yn rheolaidd, ond fe ddechreuodd popeth o ddifrif ar ôl i ni weithio mewn partneriaeth â Thîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a helpodd i gydlynu sesiynau blasu pêl osgoi yn yr ysgolion cynradd lleol. Roedden nhw’n boblogaidd iawn ac erbyn hyn mae gennym ni fwy nag 20 yn dod yn rheolaidd i’n clwb ni bob dydd Llun.” 

Darllen mwy: Cyngor Clwb Pêl Osgoi Dreigiau'r Rhondda - Sut i sefydlu clwb chwaraeon newydd gyda chyllid Chwaraeon Cymru

Bachgen a dwy ferch yn dal peli osgoi
Mae pêl osgoi yn ffefryn mawr mewn ysgolion, felly roeddwn i eisiau sefydlu adran iau yn ein clwb ni ac roedden ni wrth ein bodd yn derbyn cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Scott Esnouf, Clwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda

Ychwanegodd Scott: “Dydyn ni ddim eisiau i ddiffyg arian fod yn broblem, felly rydyn ni’n prisio ein sesiynau ni yn £2.50 i sicrhau nad yw pobl o gefndir tlotach yn cael eu heithrio, a does dim costau offer na chit i’r plant. Mae ein holl hyfforddwyr ni’n wirfoddolwyr, ac rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan ein canolfan hamdden leol hefyd i helpu i gadw cost y neuadd chwaraeon i lawr. 

"Fel camp aml oedran a rhyw cymysg, mae’r sesiynau’n galluogi brodyr a chwiorydd i hyfforddi gyda’i gilydd, gan ei gwneud yn haws i rieni hefyd. Gall unrhyw un chwarae pêl osgoi ac rydyn ni wir eisiau annog ochr hwyliog y gamp.” 

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru – Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus: “Rydyn ni’n gwybod o’r Arolwg Chwaraeon Ysgol bod plant a phobl ifanc wir eisiau profiad hwyliog, hygyrch a phleserus mewn chwaraeon. Mae gallu rhoi cynnig ar wahanol fathau o chwaraeon a chael profiadau newydd gyda ffrindiau yn bwysig iawn. 

“Mae’r clwb yma’n enghraifft wych o sut gall unigolyn angerddol, cefnogaeth gan yr awdurdod lleol a chyllid gan Chwaraeon Cymru greu clwb sy’n diwallu anghenion chwaraeon lleol. 

"Gall cael adnodd fel Cronfa Cymru Actif – diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – wneud y gwahaniaeth sydd ei angen i ddatblygu cymunedau mwy cynhwysol yng Nghymru a chael ein pobl ifanc ni i fod yn actif.” 

Mae Scott hefyd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol ac ysgolion cynradd i lansio Cynghrair Ysgolion Cynradd, gan fanteisio ar y momentwm sydd eisoes wedi’i adeiladu, ac ymateb i’r galw am weld mwy o gyfleoedd pêl osgoi yng Nghymru. 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

Am ragor o fanylion am Glwb Pêl Osgoi Dreigiau'r Rhondda, dilynwch @RhonddaDragons ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy