Mae Clwb Octowthio Penfro wedi derbyn talp o gyllid y Loteri Genedlaethol i helpu mwy o bobl leol i ymgolli yng nghyffro hoci tanddwr.
Defnyddiodd y clwb gorllewin Cymru £3,559 o gyllid y loteri – sy’n cael ei ddosbarthu gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru – i brynu pyciau, goliau a chitiau cychwynnol ar gyfer chwaraewyr newydd, a thalu am hyd at ddeg awr o logi lleoliad ar gyfer grŵp newydd o nofwyr.
Beth yw octowthio?
Yn gamp i bob oedran, mae octowthio yn cael ei chwarae ar waelod pwll nofio gyda’r chwaraewyr yn defnyddio ffyn bach i wthio pyc gyda phwysau arno i mewn i gôl eu gwrthwynebydd.
Pwy yw Clwb Octowthio Sir Benfro?
Mae Clwb Octowthio Penfro wedi bod yn cynhyrfu’r dyfroedd ers 1989 ac wedi ennill teitl pencampwyr Cymru ddeuddeg gwaith ers 2007. Mae llawer o'u haelodau wedi mynd ymlaen i chwarae i Dîm Prydain Fawr ym mhencampwriaethau hoci tanddwr Ewrop a'r Byd. Nawr, maen nhw'n gobeithio cael mwy o bobl ifanc i roi cynnig ar y gamp.
Pam wnaethon nhw dderbyn cyllid Chwaraeon Cymru?
Fel llawer o chwaraeon, mae angen offer arbenigol i chwarae octowthio, a all fod yn ddrud yn aml. O ffioedd sesiwn i’r cit, dydi pawb ddim yn gallu fforddio rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Felly, dyfarnodd Chwaraeon Cymru £3,559 i helpu i oresgyn y rhwystr ariannol yma a galluogi mwy o bobl i flasu octowthio.
Diolch i'r cyllid, gall y clwb fenthyca’r citiau cychwynnol, heb unrhyw bwysau ar aelodau newydd i ddychwelyd o fewn amserlen benodol.