Skip to main content

Sut i gael cyllid ar gyfer eich clwb tennis yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut i gael cyllid ar gyfer eich clwb tennis yng Nghymru

Os ydych chi’n helpu i redeg clwb tennis yng Nghymru ac yn meddwl tybed sut i gael cyllid, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. 

Rydyn ni'n edrych ar bum clwb tennis sydd wedi cael cefnogaeth gan ein Cronfa Cymru Actif, yn ogystal â’n Cronfa Lle i Chwaraeon, mewn cydweithrediad â Crowdfunder.

Daliwch sylw, efallai mai eich clwb tennis chi fydd nesaf i gael un o’n grantiau…

Goleuo'r ffordd yng Nghlwb Tennis Lawnt Stow Park

Os oes angen llifoleuadau newydd ar eich clwb, gwrandewch. Gwnaeth Clwb Tennis Lawnt Stow Park yng Nghasnewydd gais i’n Cronfa Cymru Actif a sicrhau mwy na £22000 tuag at osod llifoleuadau LED newydd, ynni-effeithlon.

Meddai Chris Hart, Capten y Clwb: “Bydd y goleuadau LED yn arbed bron i 50% ar ein costau ynni. Ychydig iawn o waith cynnal a chadw sydd ei angen arnynt a bydd yn golygu y bydd ein chwaraewyr yn cael profiad llawer gwell ar y cwrt. Mae gennym ni lawer o ferched a genethod yn chwarae yma, a bydd y goleuadau gwell yn gwneud ein clwb hyd yn oed yn fwy diogel.”

Ac ar ben hynny, gyda chostau byw dal yn uchel, mae'r clwb yn trosglwyddo ei arbedion ynni i'w aelodau mewn ffioedd gostyngol. Nawr dyna beth rydyn ni'n ei alw'n wasanaeth gwych.

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Mae prosiectau sy’n helpu i gadw chwaraeon yn hygyrch i’ch cymuned drwy gadw costau i lawr yn fwy tebygol o gael eu derbyn.

Helpu tennis yn Aberystwyth i ffynnu

Angen rhoi wyneb newydd ar eich cyrtiau? Roedd Clwb Tennis Aberystwyth hefyd felly fe wnaeth gais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. 

Heb gyllid, roedd y clwb yn ofni y byddai'n effeithio ar nifer y bobl fyddai’n gallu chwarae tennis yn y clwb. Ar ben hynny, mae’r clybiau tennis agosaf 16 milltir i un cyfeiriad a 42 milltir i’r cyfeiriad arall.

Derbyniodd y clwb grant o £50,000 tuag at ei brosiect ac erbyn hyn y gobaith yw y bydd y cyrtiau newydd yn sicrhau bod modd chwarae tennis yn Aber am ugain mlynedd arall.

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Ar gyfer prosiectau dros £25k, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cyfrannu 20% o’r cyfanswm. Gall Chwaraeon Cymru gynnig grant o 80% ar gyfer y prosiectau drutach hyn. 

Dod yn fwy addas ar gyfer teuluoedd yn y Bont-faen

Os oes gennych chi syniad a fyddai wir yn gwella eich clwb, yna talwch sylw. Roedd Clwb Tenis y Bont-faen ym Mro Morgannwg eisiau i'w ofod fod yn fwy addas i deuluoedd. 

Roedd yn awyddus i gael lloches awyr agored a phatio gwell gyda seddi lle gallai teuluoedd wylio eu plant yn cymryd rhan. Ac wrth gwrs, ar ddiwrnod glawog, gallai plant ddod yno i gysgodi.

Cysylltodd â Chronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Mae’n cynnig cyfle i glybiau ymgysylltu â’u cymuned a chodi arian drwy Crowdfunder. Ac os ydyn nhw’n cyrraedd eu targed codi arian, mae Chwaraeon Cymru yn cyfrannu arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect. 

Ym mis Mai 2022, cododd clwb y Bont-faen bron i £18,000 mewn dim ond 56 diwrnod, gyda Chwaraeon Cymru yn addo dros £4,000 o’r cyfanswm hwnnw. 

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Anogwch bobl i gyfrannu at eich prosiect drwy gynnig gwobrau unigryw. Darganfyddwch beth oedd Clwb Rygbi Caergybi yn ei gynnig ar gyfer eu Crowdfunder.

Edrychwch ar brosiect Crowdfunder y Bont-faen.

Cyrraedd hyd yn oed mwy o blant yng Nghaerffili 

Gan anelu at gyrraedd hyd yn oed mwy o blant, dyfarnwyd bron i £3,500 i Glwb Tennis Lawnt Caerffili ar gyfer cyrsiau hyfforddi ac offer. 

Mae’n golygu y bydd gan y clwb bedwar hyfforddwr cynorthwyol cymwysedig newydd i ddatblygu’r clwb tennis hyd yn oed ymhellach – mae’n bwriadu mynd i’r afael â’i restr aros, ehangu ei raglen ar gyfer chwaraewyr iau a mynd â thennis i’r gymuned mewn parciau lleol. Bydd y grant hefyd yn helpu i ddatblygu cyrsiau Cychwyn Ieuenctid LTA sydd wedi rhoi cyfle i blant o un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru chwarae.

Cafodd y clwb arian hefyd ar gyfer peiriant peli, fel y gall chwaraewyr wella eu sgiliau, yn ogystal ag iPad a fydd yn helpu’r clwb gydag archebion, dyletswyddau gweinyddol a’i bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r clwb yn mynd amdani!

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Eisiau cynnwys mwy o bobl mewn gweithgaredd corfforol gan ddefnyddio technoleg? Gallai Cronfa Cymru Actif eich cefnogi chi!

Hyfforddwyr newydd ym Mhen-y-ffordd

Y llynedd, cafodd Clwb Tennis Pen-y-ffordd yn Sir y Fflint grant ar gyfer llifoleuadau newydd sbon gan ein Cronfa Cymru Actif. Mae wedi cael effaith fawr gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr aelodau a galw mawr am sesiynau hyfforddi.

Felly, gwnaeth y clwb gais eto eleni ac mae’n buddsoddi ei grant diweddaraf i hyfforddi hyfforddwyr benywaidd. A chyda hyfforddwyr newydd, mae’r clwb yn bwriadu ehangu ei fentrau ar gyfer merched a genethod yn ogystal â chyflwyno tennis cerdded.

Mae'r clwb, sy'n awyddus i gynnwys y gymuned gyfan, yn gobeithio y bydd ei sesiynau tennis cerdded yn denu cynulleidfa ehangach ac yn ei roi wrth galon y gymuned.

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Gwnewch y mwyaf o'n cyllid. Gallech sicrhau grant o Gronfa Cymru Actif unwaith bob blwyddyn ariannol.

Newid ar droed yng Nghymdeithas Chwaraeon Trefynwy

Yn wir, nid dim ond clwb tennis yw hwn. Mewn gwirionedd mae Cymdeithas Chwaraeon Trefynwy yn cynnwys clybiau pêl-droed, rygbi, criced, bowls ac - ie - tennis lleol. A hithau'n cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr o'r gwahanol glybiau, penderfynodd y Gymdeithas ei bod yn hen bryd i'w phafiliwn gael gweddnewidiad.

Gydag ystafelloedd newid a man cynnal digwyddiadau di-raen a hen ffasiwn, penderfynodd y Gymdeithas roi cynnig ar ariannu torfol. Roedd yn awyddus i greu amgylchedd croesawgar a sicrhau bod y gofod ar gael i grwpiau cymunedol eraill, a llwyddodd i godi dros £22,000. 

Sicrhawyd £6,000 o gyfanswm trawiadol y clwb drwy gyfraniad gan Gronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru. 

Gyda chyfleusterau pwrpasol ar gyfer merched a genethod, mae'r clybiau nawr yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y merched sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn gobeithio y gall nawr hawlio ei le haeddiannol wrth galon cymuned chwaraeon Trefynwy. 

Cyngor doeth Chwaraeon Cymru: Eisiau gosod ystafelloedd newid yn benodol ar gyfer merched? Creu amgylchedd mwy croesawgar i fenywod a merched drwy Crowdfunder.

Dyma brosiect Crowdfunder Trefynwy

 

Ydych chi'n awyddus i wella cyfleusterau eich clwb? Dysgwch sut i ddechrau eich taith Crowdfunder gyda Chwaraeon Cymru heddiw. Angen mwy o offer neu gyrsiau hyfforddi ar gyfer eich gwirfoddolwyr? Dyma sut i wneud cais am y Gronfa Cymru Actif

Chwiliwch amdanom ar TwitterFacebook.