Skip to main content

Newidiadau Bach, Buddiannau Mawr

Gall gwneud newidiadau bach o fewn cyfnodau pontio arwain at fuddiannau mawr i'ch athletwyr a'ch sefydliad. Mae cyfnod pontio yn cynrychioli cyfnod o newid i athletwr, sy'n arwain at gyfres newydd o ofynion iddo eu rheoli. Yn ôl y diffiniad hwn a'n profiadau, gwelwn fod pontio'n hollbresennol ym mywydau athletwyr a bod gennym ddyletswydd o ofal i weithio drwy gyfnod pontio ochr yn ochr â'r athletwyr o dan ein gofal. Cyfnod pontio terfynol yr athletwr, i ymddeoliad, sy’n cael y sylw pennaf yn y naratif, ac er ei fod yn bwysig, mae angen ehangu ein cwmpas a'n harferion. Mae'r erthygl hon yn nodi rhai adegau ym mywyd athletwr sy'n gallu cyflwyno heriau. 

Mae astudio yn elfen allweddol o ddatblygiad personol a phroffesiynol athletwr. Sut gallwch chi gefnogi eich athletwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng hyfforddiant a dysgu? Gyda'r cydbwysedd, y gefnogaeth a'r arweiniad cywir, gall chwaraeon ac astudiaethau fod yn gyfuniad llwyddiannus.

Mae gan raglenni Cymru athletwyr sy'n ddi-waith, yn jyglo gwaith a chwaraeon, a'r rhai sy'n cael arian gan y loteri genedlaethol – sydd i gyd yn cyflwyno heriau gwahanol yn ymwneud â chyllid. Ydych chi wedi ystyried eich darpariaeth i athletwyr sy'n profi cyfnodau pontio sy'n ymwneud â chyllid? Gall bod yn rhagweithiol a gweithredu strategaethau effeithiol eich cefnogi chi gyda hyn. 

O'r eiliad y bydd athletwr yn cymryd rhan gyntaf mewn camp, tan iddo gystadlu am y tro olaf, bydd yn profi cyfnodau pontio amgylcheddol amrywiol. Bydd cefnogi athletwyr drwy gydol y cyfnodau pontio hyn yn gwella boddhad yr athletwyr ac yn golygu ei bod yn haws eu cadw. 

Mae’r tîm ffordd o fyw yn perfformio yn Chwaraeon Cymru eisiau cefnogi sefydliadau i weithredu strategaethau i gynorthwyo athletwyr i bontio. Byddem hefyd wrth ein bodd yn cael gwybod sut mae eich sefydliad chi’n cefnogi athletwyr ar hyn o bryd drwy gyfnodau pontio gwahanol.

Mae gennym gasgliad o raffeg gwybodaeth sydd ar gael i'ch cefnogi chi i godi ymwybyddiaeth o’r heriau mae athletwyr yn eu hwynebu a hefyd, yn bwysig, rhai syniadau ar gyfer sut gallwch eu cefnogi. Os hoffech gael mynediad at yr adnoddau hyn ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth Ffordd o Fyw yn Perfformio Chwaraeon Cymru, cysylltwch â: 

Arweinydd Ffordd o Fyw yn Perfformio Zoe Eaton zoe.eaton@sport.wales neu Rosie Williams Ymarferydd Ffordd o Fyw yn Perfformio rosie.williams@sport.wales