Darparu cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol yng Nghymru i gael mwy o bobl i fod yn actif.
Bydd Cronfa Cymru Actif yn ailagor ar 9 Gorffennaf 2025
Darparu cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol yng Nghymru i gael mwy o bobl i fod yn actif.
Bydd Cronfa Cymru Actif yn ailagor ar 9 Gorffennaf 2025
Mae Cronfa Cymru Actif yn grant sy’n cael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n cyllido clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol nid-er-elw ledled Cymru. Gallwch wneud cais am grantiau rhwng £300 a £50,000 i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Gall Cronfa Cymru Actif gefnogi pethau fel:
Dyma fwy o wybodaeth am beth sy’n gallu cael cyllid.
Mae tri chyfle i wneud cais:
Ffenest 1
Diweddariad: Oherwydd y nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd yn Ffenest 1, mae'r penderfyniadau'n cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Rydyn ni'n rhagweld y bydd y penderfyniadau cyllido'n cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Ffenest 2
Ffenest 3
Dim ond un cais llwyddiannus allwch chi ei gael ar draws y tair ffenest.
Cofiwch: Gall y ffenestri ceisiadau gau yn gynnar neu newid yn dibynnu ar nifer y ceisiadau sy’n cael eu derbyn.
Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau ar gyfer y ffenest gyfredol, does dim rhaid i chi aros nes bod y ffenest nesaf yn agor - fe allwch chi gyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb ar unrhyw adeg, a bydd yn cael ei drosglwyddo'n awtomatig i'r rownd gyllido nesaf.
Gall clybiau chwaraeon neu grwpiau cymunedol nid-er-elw yng Nghymru wneud cais i Gronfa Cymru Actif. I fod yn gymwys, rhaid i'ch prosiect chi fodloni’r pwyntiau yma:
Gall Cronfa Cymru Actif gefnogi pethau fel:
Dyma fwy o wybodaeth am beth sy’n gallu cael cyllid.
1. Llenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb
2. Derbyn cadarnhad
3. Cael cefnogaeth
4. Cyflwyno eich cais llawn
Darllenwch ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau cyn gwneud cais.
Mae'r gronfa’n dyfarnu grantiau rhwng £300 a £50,000. Rhaid i'ch clwb chi gyfrannu 10% o leiaf o gyfanswm cost y prosiect.
Dadansoddiad o’r cyllid:
Mae’n bosibl mai dim ond 50% o’r cyllid fydd rhai eitemau penodol yn eu cael neu fod cyfyngiadau ariannol.
Cofiwch: Nid yw’r lefelau cyllid wedi’u gwarantu a byddant yn cael eu penderfynu’n unigol ar gyfer pob cais.
Dyma fwy o wybodaeth am gyfyngiadau ariannol.
Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau help, fe allwch chi gysylltu â ni:
Mynnwch hyd at £15,000 i wella eich cyfleusterau
Grantiau hyd at £25,000 ar gyfer gwelliannau arbed…