Skip to main content

Deall Eich Cwsmeriaid

Os yw eich clwb eisiau ehangu ei aelodaeth, mae’n bwysig cymryd cam yn ôl a meddwl am eich darpar gwsmeriaid. Gallwch wneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:

  • Penderfynu pa fath o berson fydd eich clwb yn apelio ato. Edrychwch ar weledigaeth eich clwb, a ddylai fod yn glir am ba fath o glwb ydych chi a beth rydych yn ei gynnig ar ac oddi ar y cae
  • Edrych ar eich cystadleuwyr. Unwaith mae gennych chi ddealltwriaeth o ba fath o glwb yw eich clwb chi a beth rydych yn ei gynnig, datgan beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol ac yn atyniadol i ddarpar aelodau

Os ydych chi eisiau mynd gam ymhellach, mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu adnoddau a all eich helpu chi i ddeall eich aelodau presennol ac unrhyw ddarpar aelodau, a chanfod beth sy’n eu cymell nhw i gymryd rhan mewn chwaraeon:

  • Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn darparu gwybodaeth am gyfranogiad chwaraeon a lles pobl ifanc ledled Cymru
  • Mae’r Arolwg ar Oedolion Egnïol yn darparu gwybodaeth am gyfranogiad oedolion mewn chwaraeon
  • Mae’r adnodd Segmentu Pobl yn eich helpu chi i ddeall eich aelodau presennol ac unrhyw ddarpar aelodau ac yn galluogi i chi sefydlu strategaethau effeithiol i’w recriwtio a’u cadw
  • Oes gennych aelodau o'ch clwb sy'n siarad Cymraeg? Bydd ein modiwl ddigidol i siaradwyr Cymraeg rhugl a'r rheiny sy'n dysgu Cymraeg yn ganllaw sut i gyfathrebu'n well gyda hwy, neu syniadau sut i gyflwyno'r iaith i fewn i'ch clwb.

A chofiwch mai darparu profiadau safonol a phleserus i’ch aelodau o ddydd i ddydd yw’r ffordd orau o ddenu cwsmeriaid newydd! Rhaid eu hannog nhw i rannu’r neges honno ...                         

Gwybodaeth Pellach

Mae 'Activity Alliance' wedi rhoi pecyn cymorth at ei gilydd i'ch helpu chi ddefnyddio dulliau cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang, gan gynnwys pobl anabl.  Dyma ffordd i wir ddod i nabod eich cynulleidfa presennol a'r dyfodol.