Skip to main content

Cynllunio Busnes

Os oes gennych chi gynllun datblygu clwb eisoes ac os ydych chi’n barod i fynd un cam ymhellach, efallai eich bod eisiau ystyried datblygu cynllun busnes.

Mae cynllun busnes yn ddogfen fanwl sy’n datgan yn glir sefyllfa bresennol y clwb a’i gyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae cynllun busnes yn rhoi mwy o ffocws ar sefyllfa ariannol clwb yn ogystal â chreu incwm, cyllid a phrosiectau a fydd yn ymestyn gweithgareddau’r clwb.   

Dylid annog pob clwb i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ond mae cynllunio busnes yn hynod bwysig i glybiau mwy sy’n creu cyllid sylweddol ac, yn benodol, o incwm heb fod gan aelodau.             

Wrth lunio cynllun busnes, mae’n werth meddwl am strwythur a statws cyfreithiol eich clwb a pha un ai yw’n parhau i ddiwallu eich anghenion.

Os yw eich clwb yn fawr neu’n fach, mae bob amser yn werth gofyn am gyngor proffesiynol i’ch helpu gyda’ch cynllun busnes.

Unrhyw dempledi neu gefnogaeth ar gael?

Bydd gan Busnes Cymru a’ch Corff Rheoli Cenedlaethol ragor o adnoddau.  

Beth nesaf?

Efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn drafftio Cynllun Strategol Clwb.