Skip to main content

GRANT CYNNYDD

Bydd y grant Cynnydd yn helpu i fynd â chwaraeon a gweithgarwch i'r cam nesaf ac yn cefnogi gyda chynaliadwyedd tymor hir.

Hefyd mae’r grant Cynnydd yn gallu cyllido eitemau sy’n hanfodol ar gyfer dychwelyd i chwarae.

Y rhain yw helpu clwb, sefydliad neu weithgaredd i wneud y canlynol:

  • Trechu anghydraddoldeb
  • Creu atebion tymor hir i fod yn fwy cynaliadwy
  • Gweithredu’n arloesol

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut bydd y cyllid maent yn gofyn amdano yn datblygu eu chwaraeon neu eu camp ac yn effeithio ar o leiaf un o'r egwyddorion hyn.

Dim ond un cais Cynnydd gan bob ymgeisydd, ym mhob blwyddyn ariannol. Sylwer, os yw’n berthnasol, dylai ceisiadau fod ar gyfer ‘clwb cyfan’ ac nid adrannau oedran neu ryw unigol, oherwydd bydd yr olaf yn cael ei ystyried fel cyflwyniad unigol yr ymgeisydd am y flwyddyn. 

Beth mae’r egwyddorion hyn yn ei olygu?

Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb

Mae sawl demograffeg yn cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ar hyn o bryd. Byddwn yn cefnogi ceisiadau sy'n effeithio ar gyfraddau cymryd rhan a chynrychiolaeth ar gyfer:

  • Merched a genethod
  • Pobl ag anabledd
  • Pobl o grŵp neu gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig (DALlE)
  • Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol
  • Pobl drawsryweddol
  • Pobl sy'n byw mewn amddifadedd economaidd cymdeithasol / anfantais
  • Y rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg

Cynaliadwyedd tymor hir 

Rydym am sicrhau bod chwaraeon cymunedol yn cael eu sefydlu i lwyddo yn y dyfodol. Bydd ceisiadau sy'n cefnogi gwelliannau parhaol yn cael blaenoriaeth.  

Arloesi

Bydd ceisiadau'n cael eu cefnogi os gallant ddangos dull newydd o gyflwyno eu camp.  Gall hyn gynnwys arloesi yn y ffordd y cânt eu cyflwyno, wrth ymateb i heriau tymor canolig a hir Covid-19, neu'r math o weithgareddau a ddarperir.

DYFARNU CYLLID

Isafswm y dyfarniad yw £300 a'r uchafswm yw £50,000.  Mae'r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar raddfa symudol.

  • Grant o 100% hyd at £10,000
  • Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
  • Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000

*Bydd angen cyflwyno isafswm o dri dyfyn-bris ar gyfer unrhyw eitem unigol sy'n costio mwy na £250

Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddechrau eu prosiect o fewn mis i dderbyn cyllid. 

BETH ALLWN NI EI GYLLIDO? 

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod eu cais yn cyd-fynd ag un o’r tair egwyddor sef ‘rhoi sylw i anghydraddoldeb, ‘cynaliadwyedd tymor hir’ neu ‘arloesi’.                                             

Mae'n bwysig nad yw ymgeiswyr yn canolbwyntio ar yr hyn y gallant gael cyllid ar ei gyfer, ond yn hytrach ar beth yw eu hanghenion yn y pen draw.

Bydd y panel sy'n gwneud penderfyniad am gyllid yn chwilio am wybodaeth am amgylchiadau unigryw y clwb, y sefydliad neu'r gweithgaredd a sut maent yn berthnasol i un neu fwy o feini prawf allweddol y gronfa. Dylech ddarparu cymaint o fanylion â phosib.

Fel CANLLAW YN UNIG, mae rhai ceisiadau'n debygol o ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o gyfranogwyr, fel darparu sesiynau ar-lein, neu ddefnyddio adnoddau ar-lein i helpu gyda chreu incwm.
  • Addysgu hyfforddwyr ar Lefel 1 lle mae angen wedi’i brofi.
  • Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan y clwb fylchau mewn sgiliau neu brofiad.
  • Offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan.
  • Ffyrdd gwahanol ac arloesol o gyflwyno'r gweithgaredd.
  • Dulliau sy'n targedu grwpiau penodol a dangynrychiolir.

 

Hefyd gellir defnyddio’r grant Cynnydd ar gyfer: 

  • Helpu eich clwb neu eich sefydliad i ailagor cyfleusterau fel bod pobl yn gallu cymryd rhan. Gallai hyn gynnwys rhoi mesurau yn eu lle i gymryd rhan dan do neu yn yr awyr agored a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.
  • Adnoddau sy’n helpu eich clwb neu eich sefydliad i fodloni cyfarwyddyd y Llywodraeth ac iechyd cyhoeddus ar gadw pellter cymdeithasol.
  • Rhoi hyder i bobl i gymryd rhan ac annog aelodau i ddychwelyd i’ch clwb.
  • Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y clwb.
  • Datrysiadau arloesol i gael pobl i fod yn actif, fel y defnydd o dechnoleg.
  • Clybiau, timau neu sefydliadau newydd sydd eisiau sefydlu, ond angen help i ddilyn canllawiau’r Coronafeirws.

 

  • Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gyfranogiad ar gyfer y gamp/gweithgaredd dan sylw.
  • Er nad oes ei angen o reidrwydd wrth wneud cais, bydd angen y caniatâd cynllunio angenrheidiol ar rai prosiectau cyfalaf, cyn i unrhyw ddyfarniad gael ei wneud. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth neu os oes arnoch angen canllawiau pellach, cysylltwch â beactive@sport.wales.
  • Dim ond os yw’r ceisiadau’n bodloni blaenoriaeth a nodwyd ac y cytunwyd arni’n glir gan y Corff Rheoli Cenedlaethol fydd ceisiadau perthnasol i gampfeydd/cyfleusterau ffitrwydd yn cael eu hystyried.
  • Dim ond at ddibenion hyfforddi fydd ceisiadau ar gyfer llifoleuadau’n cael eu hystyried.
  • Gwella meysydd chwarae/draenio meysydd chwarae. Yn y lle cyntaf, a chyn gwneud unrhyw gais, dylai clybiau gysylltu â'u Corff Rheoli Cenedlaethol. Os penderfynir bod y cynnig o flaenoriaeth addas, rhaid i'r ymgeisydd dalu am arolwg meysydd chwarae (y cyfeirir ato weithiau fel PQS) i bennu lefel y gwaith sydd ei angen. Rhaid capio pob cais am welliannau/draenio meysydd chwarae ar 50% o gostau'r prosiect, hyd at uchafswm o £20,000 (ynghyd â ffioedd), er y gellir ystyried dyfarniadau o fwy na 50% mewn rhai amgylchiadau, oherwydd natur ddewisol y gronfa. I raddau amrywiol yn dibynnu ar natur y gwaith, disgwylir y byddai rheolwr prosiect â chymwysterau addas yn goruchwylio unrhyw brosiect y cytunir arno.
  • Mae pob cais am logi lleoliad yn cael ei gapio ar 2 awr yr wythnos am 10 wythnos. Gall hyn gynnwys llogi lleoliad priodol yng nghyswllt rheoliadau Covid-19. Unwaith y bydd lleoliadau wedi dychwelyd i normal, dim ond ceisiadau llogi lleoliadau ar gyfer timau newydd y gellir eu hystyried.
  • Rhydd-ddaliad/les-ddaliad. Bydd rhai prosiectau cyfalaf yn gofyn i’r ymgeisydd fod yn rhydd-ddeiliad neu les-ddeiliad ar y tir dan sylw. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth neu os oes arnoch chi angen rhagor o gyfarwyddyd, cysylltwch â [javascript protected email address]

 

BETH NA ALLWN EI GYLLIDO

Mae nifer o bethau sy'n anghymwys ar gyfer y cyllid hwn:

  • Dylai ceisiadau sydd angen y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol ddod gan y rhydd-ddeiliad ei hun, neu'r lesddeiliad sydd â'r caniatâd angenrheidiol;
  • Ni fydd unrhyw gyllid ôl-weithredol yn cael ei ystyried;
  • Ni fydd unrhyw eitemau personol yn cael eu hystyried, e.e. cit chwarae, poteli dŵr, esgidiau, offer gwarchodol.
  • Ni fydd unrhyw ddyfeisiau electronig personol yn cael eu hystyried. Dim ond os gellir dangos yn glir y byddent yn rhan o ateb arloesol ar gyfer y clwb neu’r weithgaredd fydd cefnogaeth ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys dyfeisiau electronig yn cael eu hystyried.
  • Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n ymwneud â meini prawf y Corff Rheoli Cenedlaethol yn cael eu hystyried, e.e. stand, dygowt, rhwystrau.
  • Ni fydd unrhyw swyddi cyflogedig yn cael eu hystyried;
  • Ni fydd unrhyw ffioedd aelodaeth yn cael eu hystyried;
  • Ni fydd unrhyw geisiadau gan glybiau sy'n gysylltiedig â sefydliadau addysgol yn cael eu hystyried. Er enghraifft, timau prifysgol neu uwchraddio cyfleusterau addysgol;
  • Dim ond ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud â rhwymedigaethau statudol (ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu, ffioedd cyfreithiol) fydd yn cael eu hystyried;
  • Mae agweddau penodol y bydd Chwaraeon Cymru yn eu cyllido o dan yr elfennau 'Diogelu' a 'Pharatoi' na fyddent yn berthnasol o dan 'Cynnydd'. Dylech ddarllen y cyfarwyddyd ar draws y tair elfen i benderfynu ar yr elfen fwyaf priodol ar gyfer eich cais.
  • Ni fyddwn yn cefnogi ceisiadau am elfennau a gefnogwyd yn flaenorol drwy 'Diogelu' a/neu 'Paratoi'.
  • Heblaw am geisiadau Diogelu priodol, ni fydd unrhyw gefnogaeth yn cael ei hystyried ar gyfer costau rhedeg a chynnal a chadw cyffredinol. Er nad yw'n rhestr gynhwysfawr, mae hyn yn cynnwys costau cyfleustodau, cynnal a chadw safleoedd, yswiriant, rhent a chynnal a chadw tiroedd. Gellir ystyried ceisiadau am offer cynnal a chadw, fel peiriannau torri gwair, hyd at uchafswm o £5k.
  • Ni fydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer offer cardiofasgiwlar. Er nad yw’n rhestr hollgynhwysfawr, mae hyn yn cynnwys eitemau fel melinau cerdded, peiriannau rhwyfo a beiciau sbin.

 

PWY FYDDWN YN EU CYLLIDO

Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol. 

Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • Clybiau chwaraeon nid-er-elw lleol. os oes arnoch chi angen esboniad am y diffiniad o ‘nid-er-elw’ a statws eich clwb, eich sefydliad neu eich grŵp, cysylltwch â’ch corff rheoli neu â Chwaraeon Cymru ar [javascript protected email address].
  • Sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu neu’n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau chwaraeon yn unig neu’n bennaf ac sydd â rôl bwysig i’w chwarae mewn cadw pobl yn actif, sydd angen cefnogaeth efallai er mwyn i rannau eraill eu sefydliad barhau ar agor.
  • Ymddiriedolaethau elusennol bychain nad ydynt yn gymwys am gymorth ariannol o unrhyw ffynhonnell arall.
  • Cyrff rhanbarthol sy’n wynebu risg o galedi ariannol.

 

PWY NA ALLWN EU CYLLIDO 

Mae’r gronfa hon wedi’i chreu i helpu darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu helpu’r sefydliadau canlynol gyda’r gronfa yma:

  • Awdurdodau lleol, gan gynnwys cynghorau tref a phlwyf
  • Ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • Darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol masnachol, e.e. campfeydd preifat
  • Gweithredwyr hamdden
  • Unigolion sydd naill ai’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Ni fydd Cronfa Cymru Actif yn cefnogi sefydliadau/clybiau cysylltiedig â sefydliadau addysgol. Er enghraifft, timau prifysgol neu uwchraddio cyfleusterau addysg.

 

SUT I GYSYLLTU Â NI

Cofiwch nad ydym yn gallu ateb ymholiadau’r Grant Cynnydd dros y ffôn, oherwydd capasiti a gweithio o bell. 

Defnyddiwch y Ganolfan Cymorth neu anfon eich ymholiad ar e-bost [javascript protected email address]

Astudiaethau achos Cronfa Cymru Actif

CYLLID YN RHOI HWB I YMGYRCH CYNHWYSIANT CLWB BOWLS

Gydag aelodau rhwng naw a 95 oed bywiog iawn, mae Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod…

Darllen Mwy

CANŴIO A CHAIACIO I BAWB, MEDDAI CLWB

Yn 2020, fe newidiodd y byd mewn ffyrdd na allem ni eu dychmygu. Un ffenomenon oedd yr awydd i fynd…

Darllen Mwy

CLWB TAEKWONDO YN BRWYDRO YMLAEN AR GYFER Y DYFODOL: Cronfa Cymru Actif

Bydd unrhyw un sydd wedi mwynhau gwylio Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd dwbl Cymru, yn gwybod…

Darllen Mwy

BYWYD NEWYDD I RWYDI CRICED; Cronfa Cmyru Actif

Mae clwb criced sydd wedi helpu i gynhyrchu’r chwaraewr gyda Morgannwg, Lucas Carey, a bowliwr cyflym…

Darllen Mwy

SYNIAD BACH = GWAHANIAETH MAWR: Cronfa Cymru Actif

Weithiau, y pethau symlaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac mae hyn yn sicr yn wir am gynlluniau Clwb…

Darllen Mwy

CICIO DAN Y LLIFOLEUADAU AR HEOL CLARBESTON

Mae Clwb Pêl Droed Amatur Heol Clarbeston yn Sir Benfro yn cynllunio ar gyfer dyfodol mwy disglair drwy…

Darllen Mwy

IEUENCTID Y LLEW COCH YN RHUO

Ymhlith y clybiau pêl droed niferus sy'n dyheu am fynd yn ôl allan ar y cae unwaith y bydd yn ddiogel…

Darllen Mwy

CLWB GOLFF YN TROI AT DECHNOLEG AR GYFER DYFODOL IACH

Mae clwb golff yng Ngwynedd a welodd ei incwm yn gostwng mwy na £100,000 yn ystod 2020 yn edrych y tu…

Darllen Mwy

CYNLLUNIAU EHANGU MAWR AR DROED AR GYFER CLWB YM MHEN-Y-BONT AR OGWR

Efallai bod y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo chwaraewyr wedi mynd heibio, ond mae clwb ym Mhen-y-bont…

Darllen Mwy