Skip to main content

Cefndir

Er mwyn edrych arLeoliadau Addysg Actif yng nghyd-destun Cymru, sefydlodd Chwaraeon Cymru y rhaglen ‘Addysg Actif Y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol’ (AEBSD). Comisiynwyd Sefydliad Cymru Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon (WIPAHS) gan Chwaraeon Cymru i gefnogi gwerthusiad o’r rhaglen a sicrhau gwybodaeth o’r data a gasglwyd er mwyn darparu argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r data a gasglwyd gan ysgolion rhwng Ionawr 2022 ac Awst 2022.

“Dylai plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dwysedd cymedrol i egnïol am o leiaf 60 munud y dydd yn ystod yr wythnos ar gyfartaledd.”

Cefndir

Mae manteision gweithgarwch corfforol yn ddigwestiwn (Chaput et al, 2020).

Mae Canllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol (CMO: 2019) yn argymell y dylai “plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dwysedd cymedrol i egnïol am o leiaf 60 munud y dydd ar gyfartaledd, ar draws yr wythnos,” gan gynnwys “amrywiaeth o fathau a dwysedd… i ddatblygu sgiliau symud, ffitrwydd cyhyrol, a chryfder esgyrn.” Fodd bynnag, yn fyd-eang, mae lefelau gweithgarwch corfforol pobl ifanc yn parhau i fod yn gyson isel, gydag amcangyfrif o 80% o bobl ifanc heb fod yn ddigon actif (Guthold et al., 2020). Yng Nghymru yn benodol, adroddodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mai dim ond tua 1 o bob 5 (17%) o bobl ifanc sy’n bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir.

Mae’n bwysig nodi bod y data hyn cyn y pandemig, ac mae’n parhau i fod yn aneglur pa effaith mae’r pandemig wedi’i chael, ac y gallai barhau i’w chael, ar yr ystadegau hyn. Gyda neges gref o ganllawiau’r CMO yn 2019 bod “mwy yn well”, mae angen nodi ffyrdd newydd, cynaliadwy sy’n ystyried dull o weithredu ar lefel systemau i gefnogi pobl ifanc i fod yn gorfforol actif. 

Dangosodd Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022

  •  

Yn 2018, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac UNESCO safonau byd-eang ar gyfer Ysgolion Sy’n Hybu Iechyd. Mae ysgolion yn lleoliad allweddol i ddylanwadu ar ymddygiadau plant, pobl ifanc a grwpiau ehangach o’r boblogaeth. Mae hyn oherwydd yr amser estynedig y mae plant a phobl ifanc yn ei dreulio mewn ysgolion a bod ysgolion yn aml yn ganolbwynt cymunedau. Ym mrif f polisi’r WHO (2022) ar hyrwyddo gweithgarwch drwy ysgolion, tynnir sylw at chwe pharth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynyddu gweithgarwch corfforol mewn ysgolion, ac mae dau o’r rhain yn canolbwyntio ar ‘raglenni actif cyn ac ar ôl ysgol’ a ‘dull o weithredu cynhwysol gyda gweithgarwch corfforol’.

Mae’r WHO yn diffinio gweithgarwch corfforol fel “unrhyw symudiad corfforol a gynhyrchir gan gyhyrau ysgerbydol sydd angen defnyddio egni. Mae gweithgarwch corfforol yn cyfeirio at bob symudiad gan gynnwys yn ystod amser hamdden, ar gyfer cludiant i gyrraedd i ac o lefydd, neu fel rhan o waith person.”

Y Cwricwlwm i Gymru

Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gyfle i greu’r amgylchedd a’r profiadau gorau posibl i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder, y cymhelliant, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i fwynhau bod yn gorfforol actif am oes. Un label a ddefnyddir ar gyfer y dull hwn o weithredu yw ‘Lleoliadau Addysg Actif’.

Lleoliadau Addysg Actif

Diffiniodd Chwaraeon Cymru ‘Leoliadau Addysg Actif’ fel:

Ysgolion rhagweithiol sy’n darparu mynediad i gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, drwy ddefnyddio eu cyfleusterau, pan fo angen, gan wasanaethu anghenion eu cymuned.

Yn 2021, addawodd Maniffesto Llafur Cymru wireddu’r ymrwymiad i greu ysgolion bro. Ymatebodd Chwaraeon Cymru gyda datblygiad y ‘Lleoliadau Addysg Actif’ sy’n canolbwyntio ar weithgarwch corfforol, tra bo ysgolion bro hefyd yn canolbwyntio ar gelf, chwarae ac ymgysylltu â theuluoedd.

Neilltuodd Llywodraeth Cymru gyllid i Chwaraeon Cymru a Chyngor y Celfyddydau i ddatblygu ysgolion bro fel roeddent yn gweld yn briodol.

Fel rhan o gam cyntaf y ffrwd waith hon, cynhaliodd Chwaraeon Cymru adolygiad llenyddiaeth o’r dystiolaeth ryngwladol sydd ar gael o effaith lleoliadau addysg actif, gan gynnwys ffocws ar bolisi ac arfer (edrychwch ar Marshall a Rees, 2021 am adolygiad llawn). Canfu’r adolygiad y gallai agor lleoliadau ysgol ar gyfer cyfleoedd gweithgarwch corfforol y tu allan i amser y cwricwlwm neu ddiwrnod ysgol traddodiadol gael effaith gadarnhaol ar sicrhau bod cyfleoedd chwaraeon ar gael yn fwy cynhwysol. Mae Bocs 1 yn crynhoi’r consensws o’r adolygiad ynghylch yr hyn sydd ei angen i greu lleoliad addysg actif. Fodd bynnag, nid oes digon o ymchwil i ddeall sut gellir defnyddio dulliau o’r fath yn gynaliadwy a sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag anghenion lleol penodol.

Dywed Chwaraeon Cymru y bydd creu lleoliadau addysg actif, sy’n hygyrch i bawb, yn helpu pobl ifanc yng Nghymru i ffynnu. Mae lleoliadau addysg actif yn cyfeirio at hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel y tu mewn a’r tu allan i gwricwlwm yr ysgol. Ymhellach, mae Chwaraeon Cymru wedi dadlau dros agor cyfleusterau chwaraeon ysgolion y tu hwnt i’r diwrnod ysgol traddodiadol, ac mae’r gwerthusiad proses hwn yn ceisio pennu ymarferoldeb a derbynioldeb dull o’r fath o weithredu. Roedd y prosiect peilot hwn yn canolbwyntio ar agor safleoedd ysgolion, y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, gan gynnwys gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.

Y rhaglen ‘Addysg Actif y tu hwnt i’r diwrnod ysgol’

Ym mis Hydref 2021, gwahoddwyd holl ysgolion Cymru, mewn cydweithrediad â’u Harweinwyr Chwaraeon / Hamdden ac Addysg yn yr Awdurdodau Lleol, i gyflwyno Datganiad Mynegi Diddordeb. Wrth gyflwyno eu Datganiad Mynegi Diddordeb, cytunodd yr ysgol a’r awdurdod lleol cefnogol i’r datganiad a ganlyn:

Bydd ysgolion a’r awdurdod lleol cefnogol yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gefnogi’r dysgu o’r peilot. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth sylfaen, monitro a gwerthuso.

Roedd y meini prawf cynhwysiant ysgolion a bennwyd gan Chwaraeon Cymru fel a ganlyn:

  • Ysgolion sy’n gwasanaethu ardaloedd o amddifadedd
  • Ysgolion uwchradd, cynradd ac addysg arbennig
  • Cymysgedd o leoliadau trefol a gwledig
  • Ysgolion sy’n dangos y byddant yn defnyddio cynigion chwaraeon/gweithgarwch corfforol

Roedd yn ofynnol i ysgolion amlinellu cynnig ynghylch sut byddai eu hysgolion yn gweithredu fel lleoliad addysg actif i hwyluso sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ddisgyblion, teuluoedd, a’r gymuned ehangach. Roedd yn ofynnol i ysgolion ystyried eu hamgylchedd er mwyn gwneud y cynnig yn gwbl addas i’r gynulleidfa darged a diwallu anghenion lleol. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw gynigion yr un fath, ac roedd y ddarpariaeth chwaraeon yn unigol. Roedd yn ofynnol i ysgolion wneud y cynnig chwaraeon yn hygyrch i’r “gymuned”, fodd bynnag, roedd y term yn hunanddiffiniol.

O ganlyniad, gellid diffinio “cymuned” fel naill ai “cymuned yr ysgol” neu’r “gymuned ehangach"

O fewn y labeli hyn, gallai cymuned yr ysgol gyfeirio at ddisgyblion yn unig, neu ddisgyblion a rhieni, a gallai’r gymuned ehangach gyfeirio at ddisgyblion o ysgolion cyfagos, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd naill ai’n unigol neu drwy glybiau / grwpiau cymunedol lleol.

Y panel llunio rhestr fer a adolygodd y ceisiadau a dewis pa ysgolion oedd yn gymwys i gymryd rhan yn y peilot dan sylw:

  • Aelodau o staff Chwaraeon Cymru o dimau amrywiol gan gynnwys: yr Arweinydd Addysg, yr Arweinydd Sylfeini a Chyfranogiad, yr Arweinydd Polisi, Swyddog Awdurdodau Lleol, cynrychiolydd y Tîm Buddsoddi ac aelod o’r Uwch Dîm Arwain
  • Tîm Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru

Roedd pob ysgol beilot yn gyfrifol am weithredu’r cynnig chwaraeon a amlinellwyd yn eu cynnig. Roedd y ddarpariaeth chwaraeon i fod yn rhan o drefn arferol yr ysgol ac felly’n cael ei chynnwys o dan brosesau a pholisïau addysg safonol i blant, pobl ifanc ac oedolion gymryd rhan.

Os oedd angen caniatâd, roedd rhaid i ysgolion geisio a storio’r caniatâd yn unol â’u harferion arferol. Roedd pwy oedd yn mynychu’r sesiynau a drefnwyd yn unol â chyfarwyddyd yr ysgol; nid Chwaraeon Cymru na WIPAHS.

Mae'r raffeg yn ddarlun sgematig o'r canfyddiadau allweddol ynghylch y dystiolaeth ryngwladol o'r hyn sydd ei angen i greu lleoliad addysg actif.  Mae'r elfennau galluogi allweddol yn cynnwys; cydweithredu rhwng cymunedau, ysgolion a rhanddeiliaid allweddol, gan ddefnyddio dirnadaeth a chael eich arwain gan anghenion, arweinyddiaeth uchelgeisiol, a chyllid cyson a chynaliadwy.  Os yw'r elfennau galluogi hyn yn bresennol, gall y canlyniadau allweddol gynnwys; Gwell