Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cynnig llais i bobl ifanc am chwaraeon a lles yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cynnig dirnadaeth ddefnyddiol am y sawl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal ag ymddygiad ac agweddau tuag at chwaraeon.
Arolwg Chwaraeon Ysgol
Rydym yn dibynnu ar waith caled ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill ar draws y sector chwaraeon ac addysg. Mae eu hymdrechion nhw yn golygu ein bod yn gallu gwrando ar ddegau ar filoedd o ddisgyblion a channoedd o athrawon.
Mae tystiolaeth o’r arolwg yn caniatáu i ni a'n partneriaid:
- wneud penderfyniadau mwy gwybodus am fuddsoddiad yn y dyfodol
- dadansoddi tueddiadau sy’n dod i'r amlwg a nodi bylchau
- archwilio grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- mynd i'r afael â'r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon
Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael dadansoddiad o ddata ei disgyblion. Gall hyn helpu ysgolion i wneud y pethau canlynol yn well:
- gwrando ar leisiau ei disgyblion
- cynllunio ei dull gweithredu o ran chwaraeon yn yr ysgol a gweithgarwch allgyrsiol
Gallwch ddarllen adroddiadau blaenorol, y prif ganlyniadau a thablau data ar gyfer pob arolwg.
2026
Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau arolwg 2026 yn ystod yr hydref 2026.
Cymryd rhan
Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ar agor am ymatebion rhwng 13 Ebrill ac 17 Gorffennaf 2026. Gall disgyblion ym mlynyddoedd ysgol 3 i 11 gymryd rhan yn yr arolwg trwy eich ysgol.
Byddwn yn anfon manylion ynghylch sut i gymryd rhan i ysgolion. Os na fyddwch wedi cael manylion erbyn 13 Ebrill, anfonwch e-bost at [javascript protected email address] Gallwch hefyd gysylltu â ni am wybodaeth bellach am yr arolwg.
Gwelliannau ar gyfer 2026
Rydym wedi gwrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc er mwyn gwella’r arolwg. Rydym hefyd wedi ei brofi’n helaeth gyda phlant o bob oed a gallu.
Bydd arolwg 2026 yn cynnwys:
- dewisiadau iaith ychwanegol y tu hwnt i Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a Makaton
- adroddiad sain
- nodweddion rhyngweithiol ac ar ffurf gemau er mwyn helpu i gynnal ffocws a chymhelliant disgyblion
- mae'n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru
- mae modd gweld y canlyniadau ar ffurf dangosfwrdd rhyngweithiol
Adroddiadau ysgol
Rydym yn anfon adroddiad unigoledig o’u canlyniadau i ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr arolwg. Mae’r adroddiadau hyn yn:
- cynnwys data allweddol sy’n gallu helpu ysgolion i wella’u cynnig chwaraeon
- helpu ysgolion i ddeall y tirlun chwaraeon i bobl ifanc yn well
- cynorthwyo ysgolion i wella bywydau eu disgyblion
2022
Rhoddodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 lais i bobl ifanc am chwaraeon a lles yng Nghymru.
Roedd yr arolwg yn bwysicach nag erioed gan ei fod yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar effaith pandemig Covid-19 ar arferion gweithgarwch pobl ifanc.
Diolch i waith caled ysgolion, awdurdodau lleol, ac eraill ar draws y sector addysg a chwaraeon, roeddem yn gallu gwrando ar leisiau dros 116,000 o ddisgyblion, a bron i 950 o athrawon.
Prif Ganfyddiadau
Cenedl Actif
- Cymerodd 39% (124,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol 38)
– gostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018.
- Cofnododd 36% (111,000) o ddisgyblion ‘dim cyfranogiad aml’ mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm (h.y., yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos) - cynnydd o 8 pwynt canran ers 2018.
- Cymerodd 56% (174,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf – gostyngiad
o 9 pwynt canran ers 2018.
Pawb
- Mae llai na dwy ran o dair (60%) o ysgolion yn nodi bod ganddynt yr offer sy'n galluogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Mae gwahaniaeth o 15 pwynt canran mewn cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng yr ardaloedd lleiaf (PYADd1) a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (PYADd4) – cynnydd o 2 pwynt canran ychwanegol ers 2018.
Gydol Oes
- Roedd gan 93% (292,000) o ddisgyblion Cymru alw i wneud mwy o chwaraeon.
- Roedd gan 56% o ddisgyblion alw heb ei fodloni am chwaraeon, sy'n cyfateb i 175,000 o ddisgyblion.
Mwynhad
- Roedd 40% o ddisgyblion yn mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’, o gymharu â 57% yn mwynhau AG ‘yn fawr’ a 47% yn mwynhau chwaraeon clwb cymunedol ‘yn fawr’.
- Dywedodd 69% o ddisgyblion eu bod yn ‘hyderus iawn’ neu’n ‘hyderus’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, a dywedodd 8% o ddisgyblion eu bod ‘ddim yn hyderus o gwbl’.
Troednodyn: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y galw am unrhyw chwaraeon ymhlith disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos