Skip to main content

6. Mwynhad

Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar y data am farn disgyblion am eu profiadau chwaraeon, yn ogystal â barn staff am y ddarpariaeth o weithgarwch corfforol.

6.1 Mwynhau chwaraeon yn ôl lleoliad

Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion a oeddent yn mwynhau chwaraeon mewn lleoliadau amrywiol ‘yn fawr’, ‘ychydig’, neu ‘ddim o gwbl’.

Roedd y disgyblion yn fwy tebygol o fwynhau gwersi AG, a chwaraeon yn rhywle arall ‘yn fawr’, o gymharu â lleoliadau clwb allgyrsiol a chymunedol. Roedd disgyblion yn lleiaf tebygol o fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol yn fawr na mewn unrhyw leoliad arall.

 

Graff 11: Mwynhad ‘mawr’ o chwaraeon, yn ôl lleoliadau

  

Graff gyda 4 bar fertigol Y bar uchaf ar 57 y cant, sy'n cynrychioli gwersi AG a rhywle arall, ac yna 47 y cant a 40 y cant, sy'n cynrychioli Chwaraeon Clwb Cymunedol a Chwaraeon Allgyrsiol, yn y drefn honno.

Roedd mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau yn amrywio hefyd yn ôl rhywedd, oedran ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol. 

 

Tabl 8: Mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau yn ôl rhywedd, sector, anabledd neu nam, ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol

 

 Mwynhad ‘mawr’ o AGMwynhad ‘mawr’ o chwaraeon allgyrsiolMwynhad ‘mawr’ o chwaraeon mewn clwb cymunedol 
Rhywedd
Bachgen67%45%52%
Merch49%35%43%
Arall26%22%31%
Sector
Cynradd69%49%51%
Uwchradd47%32%44%
Anabledd neu nam
Anabledd neu nam53%36%40%
Dim anabledd na nam58%40%48%
Amddifadedd economaidd-gymdeithasol
PYADd1 (lleiaf difreintiedig)57%42%53%
PYADd257%40%50%
PYADd355%38%44%
PYADd4 (mwyaf difreintiedig)61%38%39%

6.2 Barn am deimlo bod pobl yn gwrando arnynt ynghylch AG a chwaraeon ysgol 

Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 hefyd i’r disgyblion i ba raddau yr oedd pobl yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol yn eu barn hwy.

Mae 15% o’r disgyblion yn credu bod pobl yn gwrando ‘bob amser’ ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol, tra bo 45% o ddisgyblion yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ‘weithiau’. 

 

Tabl 9: Barn am deimlo bod pobl yn gwrando arnynt ynghylch AG a chwaraeon ysgol yn ôl rhywedd ac anabledd neu nam

 

 Bob AmserWeithiauByth
Rhywedd
Bachgen18%46%14%
Merch13%45%15%
Arall6%21%26%
Anabledd neu nam
Anabledd neu nam19%37%17%
Dim anabledd na nam15%46%15%

6.3 Hyder i roi cynnig ar chwaraeon newydd

Mae hyder pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon newydd yn cael effaith fawr ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon. Dangosodd Arolwg Chwaraeon Cymru 2018 bod disgyblion sy’n hyderus iawn wrth roi cynnig ar weithgareddau newydd ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, dywedodd 28% o’r disgyblion eu bod yn ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, a dywedodd 8% o ddisgyblion eu bod ‘ddim yn hyderus o gwbl’. 

 

Graff 12: Hyder i roi cynnig ar chwaraeon newydd, yn ôl rhywedd

Mae’r graff wedi'i rannu'n 4 categori. Mae pob categori'n cynrychioli pa mor hyderus yw disgyblion i roi cynnig ar chwaraeon newydd.   Ceir 2 bar fertigol ym mhob categori. Mae'r bariau yn cynrychioli Bechgyn a Merched.   Mae’r bar uchaf i Ferched yn 42 y cant, sy'n cynrychioli Eithaf Hyderus, ac yna 28 y cant, 21 y cant a 9 y cant, sy'n cynrychioli ddim yn hyderus iawn, hyderus iawn a ddim yn hyderus o gwbl, yn y drefn honno.   Mae’r bar uchaf i Fechgyn yn 42 y cant ac mae'n cynrychioli Eithaf Hyderus, ac yna 34 y cant, 17 y cant, a 6 y cant, sy'n cynrychioli Hyderus iawn, Ddim yn hyderus iawn a ddim yn hyderus o gwbl, yn y drefn honno.

Er bod bechgyn yn fwy tebygol o lawer na merched o ddweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, roedd y ddau rywedd yr un mor debygol o ddweud eu bod yn ‘eithaf hyderus’.