Skip to main content

2. Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022
  4. 2. Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.

 

Cydgynhyrchwyd y Weledigaeth gydag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech ar y cyd i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth 
  • Rhoi'r sgiliau i bobl Cymru gyrraedd eu potensial 
  • Cefnogi cymunedau i ffynnu 
  • Creu cyfleoedd i bawb ymuno
  • Hyrwyddo Cymru i'r byd drwy ein hagwedd at chwaraeon

 

Mae’r adroddiad hwn wedi’i drefnu’n bedair adran:

  • Cenedl Actif 
  • Pawb 
  • Mwynhad 
  • Gydol Oes               

Drwy ddefnyddio hyn fel sail i’r adroddiad, mae cyfle i ddeall yn well y cynnydd tuag at y Weledigaeth ac archwilio lle mae potensial i wneud pethau’n wahanol i ddiwallu anghenion pobl ifanc Cymru.

Diolch yn fawr / Thank you

Hoffai Chwaraeon Cymru gydnabod a diolch i bawb a gymerodd ran, a phawb a helpodd i weithredu a chydlynu Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022.