Skip to main content

5. Gydol Oes

Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae’r adran hon yn edrych ar y gwahanol ffactorau a allai effeithio ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon ar wahanol adegau yn eu bywyd.

 

5.1 Amledd cyfranogiad cenedlaethol yn ôl grŵp blwyddyn 

Mae blynyddoedd blaenorol yr Arolwg Chwaraeon Ysgol wedi gweld y cyfranogiad mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl grŵp blwyddyn, yn cyrraedd uchafbwynt fel rheol pan fydd myfyrwyr ym mlynyddoedd 5 a 6, ac wedyn yn gostwng yn gyffredinol o'r fan honno.

Dengys Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022, bod y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos ar ei uchaf ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 (44%), ac ar ei isaf ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 3 (33%).

 

Graff 8: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl blwyddyn ysgol.

Graff Llinell Llorweddol gyda 9 pwynt data yn cynrychioli grwpiau blwyddyn 3 hyd at 11.   Y pwynt isaf yw 33 y cant ac mae'n cynrychioli disgyblion Blwyddyn 3.   Y pwynt uchaf yw 44 y cant ac mae'n cynrychioli disgyblion Blwyddyn 7.

Yn y cyfamser, roedd disgyblion ym mlynyddoedd 10 i 11 yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (39%) yn dweud eu bod yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos), tra bo disgyblion ym mlynyddoedd 5 i 6 yn llai tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (31%).

 

5.2 AG a chwaraeon yn helpu disgyblion i gael ffordd o fyw iach 

Mae’r cwricwlwm ysgol newydd i Gymru yn pwysleisio bod ‘datblygu iechyd a lles corfforol yn dod â manteision gydol oes’. Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion faint maen nhw’n meddwl y mae gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu i gael ffordd o fyw iach.

Mae 51% o ddisgyblion yn credu bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach. Yn y cyfamser, mae 7% o ddisgyblion yn credu nad yw gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu o gwbl i gael ffordd o fyw iach.

Mae’r graff canlynol yn dangos bod disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o gredu bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach na disgyblion ysgolion uwchradd. 

 

Graff 9: Barn y disgyblion am AG a chwaraeon yn helpu i sicrhau ffordd o fyw iach, yn ôl sector.

Mae’r graff wedi'i rannu'n 4 categori. Mae pob categori yn cynrychioli faint o ddisgyblion sy'n cytuno bod Addysg Gorfforol a Chwaraeon yn eu helpu i sicrhau ffordd iach o fyw. Mae'r categorïau yma'n Llawer, Ychydig, Dim o gwbl, a Dwi ddim yn gwybod.   Mae gan bob categori ddau far. Mae'r rhain yn cynrychioli disgyblion ysgolion Cynradd ac Uwchradd.   Y bar uchaf ar gyfer disgyblion Cynradd oedd 63 y cant ac mae'n cynrychioli Llawer, ac yna 24 y cant, 10 y cant, a 3 y cant, sy'n cynrychioli Ychydig, Dwi ddim yn gwybod, a Dim o gwbl, yn y drefn honno.   Y bar uchaf ar gyfer disgyblion Uwchradd oedd 42 y cant ac mae'n cynrychioli Llawer, ac yna 41 y cant, 10 y cant, a 7 y cant, sy'n cynrychioli Ychydig, Dim o gwbl a Dwi ddim yn gwybod, yn y drefn honno.

5.3 Galw cudd a galw heb ei fodloni cenedlaethol am chwaraeon

Galw cudd yw pan fydd disgyblion yn dweud yr hoffent wneud mwy o gamp benodol.

Roedd gan 93% (292,000) o ddisgyblion Cymru alw cudd am wneud mwy o chwaraeon. Roedd disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod â galw cudd am fwy o chwaraeon (96%) o gymharu â disgyblion ysgolion uwchradd (91%).

Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond sydd â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Roedd gan 56% o ddisgyblion alw heb ei fodloni, sef cyfwerth â 175,000 o ddisgyblion. Roedd y galw heb ei fodloni hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd (60%) o gymharu â disgyblion ysgolion uwchradd (53%). 

 

Graff 10: Galw heb ei fodloni, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim.  

Graff gyda 4 bar fertigol Y bar uchaf ar 63 y cant ac mae’n cynrychioli Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 4. Dilynir hyn gan 58 y cant, 55 y cant a 49 y cant, sy'n cynrychioli Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 3, Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 2, Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 1, yn y drefn honno.

Mewn cyferbyniad â'r patrwm a welwyd ar gyfer cyfranogiad yn gynharach yn yr adroddiad hwn, roedd disgyblion yn PYADd4 (mwyaf difreintiedig) yn fwy tebygol o fod â galw heb ei fodloni na'u cyfoedion yn PYADd1, PYADd2, a PYADd3, yn y drefn honno. Mae'r galw heb ei fodloni ymhlith disgyblion PYADd4 yn cyfateb i 38,000 o ddisgyblion, tra bo’r galw heb ei fodloni ymhlith disgyblion PYADd1 yn cyfateb i 41,000 o ddisgyblion.

Mae dadansoddiad llawn o’r galw cudd a’r galw heb ei fodloni fesul camp i’w weld yn atodiad C. 

 

5.4 Ymateb i anghenion disgyblion

Mae ymateb i anghenion a dymuniadau disgyblion, a chydnabod y rhwystrau i gyfranogiad, yn allweddol i allu gwneud chwaraeon yn weithgaredd gydol oes.

Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai’. Yr ymatebion a ddewiswyd amlaf ledled Cymru i ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’ oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon sy’n fy siwtio i’ (37%), ‘Pe bai gen i fwy o amser’ (36%), a ‘Pe bai gen i fwy o hyder' (25%). Mae’r Tabl a ganlyn yn amlinellu’r ymatebion yn ôl rhywedd. 

 

Tabl 7: Ymatebion i ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’, yn ôl rhywedd

 % y bechgynNifer y bechgyn% y merchedNifer y merched 
Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon 
sy’n fy siwtio i
36%56,00037%55,000
Pe bai gen i fwy o amser33%52,00040%59,000
Pe bai'n haws cyrraedd yno17%26,00020%30,000
Pe bawn i'n fwy hyderus17%27,00031%46,000
Pe bawn i'n well mewn chwaraeon17%26,00023%33,000
Pe bai gen i’r offer sydd arnaf ei angen 16%25,00016%23,000
Pe bai'n rhatach15%23,00020%30,000
bai  15%24,00031%45,000
Pe bawn i'n mwynhau chwaraeon yn fwy13%12,00017%25,000
Pe bawn i'n mwynhau AG yn fwy13%20,00018%26,000
Pe bai'r llefydd roeddwn i'n cymryd rhan mewn chwaraeon ynddynt yn well11%17,0009%13,000
Pe bai bechgyn a merched yn gwneud chwaraeon neu AG gyda'i gilydd8%12,00011%16,000
Pe bai bechgyn a merched yn gwneud chwaraeon neu AG ar wahân6%10,00013%19,000
Pe na bai rhaid i mi fynd adref ar y bws6%9,0007%10,000
Pe bai mwy o bobl mewn chwaraeon yn edrych fel fi4%6,0005%8,000
Pe bawn i’n gallu rheoli fy mislif yn well2%3,0008%12,000

Troednodyn: Dim ond i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 ac uwch y cyflwynwyd ‘Pe bawn i’n gallu rheoli fy mislif yn well’ fel opsiwn