Skip to main content

4. Pawb

Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain yn rhai medrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad yn ôl daearyddiaeth a demograffeg, gan edrych ar debygrwydd neu wahaniaethau ar draws y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon yn cyrraedd pob person ifanc ledled Cymru.

4.1 Rhywedd

Yn hanesyddol, bu bwlch mewn cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru, gyda merched yn adrodd yn gyson am lai o gyfranogiad mewn chwaraeon na’u cymheiriaid gwrywaidd. Mae disgyblion sy’n nodi eu bod yn ‘arall’ yn adrodd fel rheol eu bod yn cymryd rhan hyd yn oed yn llai aml mewn chwaraeon.

Ym mlwyddyn academaidd 2021/2022, cymerodd 43% o fechgyn ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o ferched a 28% o ddisgyblion a nododd ‘arall’. Gwelwyd patrwm tebyg yn 2018 pan gymerodd 50% o fechgyn, 46% o ferched, a 39% o’r rhai a nododd ‘arall’ ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Yn y cyfamser, roedd y rhai a nododd ‘arall’ yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (gan gymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos) o gymharu â bechgyn a merched. Roedd merched hefyd yn fwy tebygol o adrodd am ddim gweithgarwch aml o gymharu â bechgyn.

 

Graff 4: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl rhywedd

Graff gyda 12 bar fertigol, wedi'u rhannu'n 4 categori. Mae pob categori yn cynrychioli pa mor aml y mae pobl yn cymryd rhan. Dyma’r categorïau: tair gwaith neu fwy yr wythnos, dwywaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, a dim gweithgaredd yn aml.   Ceir 3 bar fertigol o fewn pob categori. Mae'r bariau yn cynrychioli Bechgyn, Merched ac Eraill.   Mae'r bar uchaf ar gyfer Bechgyn yn 43 y cant ac yn cynrychioli cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, ac yna 33 y cant, 13 y cant a 11 y cant, sy'n cynrychioli dim gweithgaredd yn aml, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.   Mae'r bar uchaf ar gyfer Merched yn 37 y cant ac yn cynrychioli Ddim yn Cymryd Rhan yn Aml, ac yna 36 y cant, 14 y cant ac 13 y cant, sy'n cynrychioli cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn ystod yr wythnos, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.   Mae'r bar uchaf ar gyfer Arall yn 50 y cant ac yn cynrychioli ddim yn cymryd rhan yn aml, ac yna 28 y cant, 12 y cant a 10 y cant, sy'n cynrychioli cymryd rhan dair gwaith yr wythnos, cymryd rhan unwaith yr wythnos, a chymryd rhan ddwywaith yr wythnos, yn y drefn honno.

4.2 Anabledd, nam, ac anawsterau dysgu

Cymerodd 40% (114,000) o ddisgyblion heb anabledd neu nam ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. O gymharu, roedd y cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos ymhlith disgyblion a adroddodd am anabledd neu nam yn 35% (6,000).

Hefyd dywedodd 7,000 o ddisgyblion ag anabledd neu nam nad oeddent wedi 

gwneud unrhyw weithgarwch aml (llai nag unwaith yr wythnos) yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

 

Graff 5a: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm,  yn ôl anabledd neu nam.

Graff gyda 8 bar fertigol, wedi'u rhannu'n 4 categori. Mae pob categori yn cynrychioli pa mor aml y mae pobl yn cymryd rhan. Dyma’r categorïau: tair gwaith neu fwy yr wythnos, dwywaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, a dim gweithgaredd yn aml.   Ceir 2 bar fertigol o fewn pob categori. Mae'r bariau hyn yn cynrychioli rhai sydd ag anabledd neu nam, a'r rhai sydd heb anabledd na nam.   Mae'r bar uchaf ar gyfer y rheini sydd ag anabledd neu nam yn 42 y cant ac yn cynrychioli ddim yn cymryd rhan yn aml, ac yna 35 y cant, 12 y cant a 12 y cant, sy'n cynrychioli cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn ystod yr wythnos, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.   Mae'r bar uchaf ar gyfer y rheini sydd heb anabledd neu nam yn 40 y cant ac yn cynrychioli cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, ac yna 35 y cant, 13 y cant a 12 y cant, sy'n cynrychioli dim gweithgaredd yn aml, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.

Gwelwyd patrwm tebyg wrth gymharu disgyblion ag anhawster dysgu â'r rhai heb anhawster dysgu. Roedd y disgyblion ag anhawster dysgu yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (42%) na’r rhai heb anhawster dysgu (34%).

Graff 5b: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl anhawster dysgu.

Graff gyda 8 bar fertigol, wedi'u rhannu'n 4 categori. Mae pob categori yn cynrychioli pa mor aml y mae pobl yn cymryd rhan. Dyma’r categorïau: tair gwaith neu fwy yr wythnos, dwywaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, a dim gweithgaredd yn aml.   Ceir 2 bar fertigol o fewn pob categori. Mae'r bariau hyn yn cynrychioli rhai sydd ag Anhawster Dysgu, a'r rhai sydd Heb Anhawster Dysgu.  Mae'r bar uchaf ar gyfer y rheini sydd ag Anhawster Dysgu yn 42 y cant ac yn cynrychioli ddim yn cymryd rhan yn aml, ac yna 35 y cant, 12 y cant a 12 y cant, sy'n cynrychioli cymryd rhan dair gwaith neu fwy yn ystod yr wythnos, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.    Mae'r bar uchaf ar gyfer y rheini sydd Heb Anhawster Dysgu yn 41 y cant ac yn cynrychioli cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, ac yna 34 y cant, 14 y cant a 12 y cant, sy'n cynrychioli dim gweithgaredd yn aml, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.

Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 gyfres o gwestiynau i athrawon hefyd ynghylch eu darpariaeth o Addysg Gorfforol a / neu chwaraeon i’r rhai ag anabledd, nam neu anhawster dysgu.

Tabl 3: Darpariaeth chwaraeon i ddisgyblion ag anabledd, nam neu anhawster dysgu

 

 Ie
Oes gennych chi le hygyrch yn yr ysgol i gyflwyno’r holl weithgareddau yn gynhwysol ar gyfer disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?87%
Ydych chi’n hyderus wrth addasu tasgau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i gynnwys yn ystyrlon y disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?83%
Oes gennych chi’r offer yn yr ysgol sy'n galluogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?60%
Ydych chi'n defnyddio pobl ychwanegol i gefnogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn sesiwn AG? 75%

 

Dywedodd dros dri chwarter yr athrawon bod ganddynt ofod hygyrch, eu bod yn hyderus wrth addasu tasgau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio, a’u bod yn defnyddio pobl ychwanegol i gefnogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Fodd bynnag, mae llai na dwy ran o dair o athrawon yn dweud bod ganddynt yr offer angenrheidiol i alluogi cynnwys disgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Gofynnwyd i athrawon hefyd a oedd cyfle i ddisgyblion anabl / disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gymryd rhan mewn gwersi AG. Ymatebodd 92% o athrawon drwy ddweud ‘Oes, drwy’r amser’, tra bo 6% arall wedi ymateb drwy ddweud ‘Oes, weithiau’.

 

4.3 Ethnigrwydd a'r Iaith Gymraeg

 

Tabl 4: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ethnigrwydd a'r iaith Gymraeg

 

 %Nifer y disgyblion
Ethnigrwydd 
Gwyn 41%106,000
Grŵp Ethnig cymysg neu luosog 43%5,000
Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig30%4,000
Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd38%2,000
Grŵp ethnig arall 33%1,000
Yr Iaith Gymraeg 
Siaradwr Cymraeg46%60,000
Di-Gymraeg 35%63,000

 

Roedd y disgyblion a nododd eu bod yn wyn a disgyblion a nododd eu bod yn rhan o grŵp ethnig cymysg neu luosog yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos na’u cyfoedion a nododd eu bod yn Asiaidd neu o grŵp ethnig arall.

I’r gwrthwyneb, roedd disgyblion a nododd eu bod yn Asiaidd yn fwy tebygol o adrodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml (llai nag unwaith yr wythnos) na’u cyfoedion a nododd eu bod yn Wyn, Du, neu o grwpiau ethnig cymysg neu luosog.

Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos. Dywedodd 46% o siaradwyr Cymraeg eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion di-Gymraeg.

Troednodyn: Mae siaradwyr Cymraeg yn cynnwys y rhai sy’n ‘rhugl yn y Gymraeg’, ‘yn gallu sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg’, neu ‘yn gallu sgwrsio’n syml yn y Gymraeg’. 

 

4.4 Daearyddiaeth

 

Tabl 5: Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl partneriaeth chwaraeon rhanbarthol

 

 %Nifer y disgyblion
Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Canolbarth y De40%39,000
Gwent38%22,000
Canolbarth Cymru40%7,000
Gogledd Cymru39%26,000
Gorllewin Cymru42%28,000

 

“Roedd cyfran is o ddisgyblion Gwent yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gorllewin Cymru”.

Gorllewin Cymru oedd â’r gyfran uchaf o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r holl bartneriaethau chwaraeon rhanbarthol eraill.

Roedd nifer y disgyblion oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm ar ei uchaf yng Nghanolbarth y De (39,000) ac ar ei isaf yng Nghanolbarth Cymru (7,000).

Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, fesul partneriaeth chwaraeon rhanbarthol

 

 %Nifer y disgyblion
Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol
Canolbarth y De56%54,000
Gwent54%32,000
Canolbarth Cymru59%11,000
Gogledd Cymru56%37,000
Gorllewin Cymru58%39,000

Yn y cyfamser, Canolbarth Cymru oedd â'r gyfran uchaf o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf (59%), tra bo nifer y disgyblion a gymerodd ran ar ei uchaf yng Nghanolbarth y De (54,000). 

Troednodyn: Edrychwch ar atodiad A ar gyfer grwpiau awdurdodau lleol yn ôl partneriaethau chwaraeon rhanbarthol

 

4.5 Amddifadedd economaidd-gymdeithasol

Yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, defnyddir Cinio Ysgol Am Ddim (PYADd) fel mesur o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, gyda PYADd1 yn cyfrif am y lleiaf a PYADd4 yn cyfrif am y mwyaf difreintiedig.

Mae gwahaniaeth o 15 pwynt canran yn bodoli rhwng y rhai lleiaf difreintiedig (PYADd1) a’r rhai mwyaf difreintiedig (PYADd4) wrth ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r gwahaniaeth hwn wedi cynyddu ers 2018 lle gwelwyd gwahaniaeth o 13 pwynt canran rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.

Graff 6:

 Cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim

 

Graff gyda 4 bar fertigol Y bar uchaf yw 47 y cant ac mae'n cynrychioli'r rheini o’r Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 1, ac yna 40 y cant, 37 y cant, a 32 y cant ar gyfer y Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 2, Chwartel  Prydau Ysgol Am Ddim 3 a Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 4.

Mae’r gwahaniaeth rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn amlycach fyth wrth ystyried cyfranogiad clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, gyda gwahaniaeth pwynt canran o 20 i’w weld rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.

 

Graff 7: Cyfranogiad mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, yn ôl chwartelau Prydau Ysgol Am Ddim.

Graff gyda 4 bar fertigol Y bar uchaf yw 65 y cant ac mae'n cynrychioli'r rheini o’r Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 1, ac yna 58 y cant, 53 y cant, a 45 y cant ar gyfer y Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 2, Chwartel  Prydau Ysgol Am Ddim 3 a Chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 4.