Skip to main content

1. Cyflwyniad

Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl hwn yn edrych ar ganfyddiadau Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru. Yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yw un o'r cyfleoedd mwyaf, y pen, yn y byd i bobl ifanc gael lleisio eu barn am chwaraeon. Eleni (2022) ymatebodd mwy na 116,000 o ddisgyblion, o 1,000 o ysgolion. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 28 Mawrth 2022 a 22 Gorffennaf 2022.

Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn arolwg cenedlaethol o ddisgyblion o flynyddoedd 3 i 11, sy’n edrych ar agweddau, ymddygiad a chyfleoedd i bobl ifanc mewn chwaraeon. Mae’r arolwg yn allweddol i ddeall pwy, ble, a pha mor aml y mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon a faint o alw sydd ganddynt am chwaraeon. Mae athrawon hefyd yn cael cynnig y cyfle i rannu eu barn ar y ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w chyflwyno. Mae canlyniadau’r arolwg yn galluogi i Chwaraeon Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol, chwaraeon a’r sector ehangach ddylanwadu ar ddyfodol chwaraeon, yn unol â lleisiau pobl ifanc. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data allweddol a all helpu i ddeall yn well y tirlun chwaraeon ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru, gan ddarparu sylfaen o dystiolaeth fel sail i bolisi ac ymarfer.

1. 2 Methodoleg yr Arolwg Chwaraeon Ysgol

Cyflwynir yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ar-lein. Darperir dolenni at yr arolwg i bob ysgol yng Nghymru, sydd, yn eu tro, yn cael eu rhannu gyda disgyblion mewn amgylchedd dosbarth. Rhoddir arweiniad hefyd i athrawon i gynorthwyo eu disgyblion, pe bai angen. 

Eleni, am y tro cyntaf, cynigiwyd yr arolwg cyfranogiad (disgyblion) cyfan i bob disgybl ar ffurf Hawdd ei Ddarllen, gan roi llais cyfartal i bawb. Mae Hawdd ei Ddarllen yn ddull o gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig i’w gwneud yn haws ei deall i bobl sy’n cael anhawster darllen. Mae'r cynllun Hawdd ei Ddarllen yn cynnwys cymhorthion delwedd, ffont mwy a symlach a bylchau digonol a phriodol. Mae'r newid allweddol hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i greu arolwg mwy hygyrch a symlach i'w gwblhau.

1. 3 Pwysig i’w wybod

Nid yw data ysgolion annibynnol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn oherwydd y niferoedd is o ddisgyblion o’r ysgolion hyn sy’n cymryd rhan. 

Mae niferoedd isel ar lefelau rhanbarthol ac awdurdod lleol yn golygu bod data ysgolion arbennig hefyd yn cael eu heithrio ar y lefelau hyn. Fodd bynnag, cynhwysir data ysgolion arbennig ar lefel genedlaethol.

Mae canrannau wedi'u talgrynnu i'r cant agosaf; a’r boblogaeth i’r mil agosaf. 

Mae unrhyw gyfeiriadau at wahaniaethau neu debygrwydd drwyddo draw yn ystadegol arwyddocaol.