Skip to main content

3. Cenedl Actif

Y Weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif, gyda chymaint o bobl â phosibl wedi’u hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran ganlynol yn archwilio ystod o ddata’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, gan edrych ar gyfranogiad a darpariaeth, er mwyn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o lefelau gweithgarwch chwaraeon a chyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru.

3. 1 Cyfranogiad cenedlaethol

Ledled Cymru, cymerodd 97% o ddisgyblion ran mewn o leiaf un gamp yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, sy’n cyfateb i fwy na 304,000 o ddisgyblion.

Mae’r cyfranogiad mewn chwaraeon yn amrywio yn ôl lleoliad. Cymerodd 50% (157,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon allgyrsiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a chymerodd 65% (202,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon clwb cymunedol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Graff 1: Unrhyw gyfranogiad mewn chwaraeon yn ôl lleoliad

 

Graff gyda 3 bar fertigol Mae'r bar uchaf ar 92 y cant yn cynrychioli cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywle arall, ac yna 65 y cant, sy'n cynrychioli cymryd rhan mewn clwb cymunedol, a 50 y cant yn cynrychioli cymryd rhan mewn lleoliad allgyrsiol.

Troednodyn: Mae chwaraeon allgyrsiol yn cyfeirio at chwaraeon mewn clwb ysgol. Gallai hyn fod yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol, mewn clwb brecwast, neu gyda chlwb ysgol ar-lein.

 

3.2 Amledd cyfranogiad cenedlaethol

Cymerodd 39% (124,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol 38). Mae hwn yn ostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018, pan gymerodd 48% o ddisgyblion ran mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos.

I’r gwrthwyneb, dywedodd 36% (111,000) o ddisgyblion nad oeddent yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm (h.y., yn cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos). O gymharu, dim ond 28% o ddisgyblion yn 2018 a nododd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm.

Graff 2: Amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm
 

Graff gyda 4 bar fertigol Mae'r bar uchaf ar 39 y cant yn cynrychioli cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, ac yna 36 y cant, 13 y cant a 12 y cant, sy'n cynrychioli dim gweithgaredd yn aml, cymryd rhan ddwywaith yr wythnos, a chymryd rhan unwaith yr wythnos, yn y drefn honno.

Troednodyn: Mae chwaraeon trefnus yn cyfeirio at unrhyw gyfranogiad allgyrsiol neu mewn clwb cymunedol

 

3.3 Amledd cyfranogiad cenedlaethol mewn lleoliad clwb cymunedol

Cymerodd 56% (174,000) o ddisgyblion ran mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae hyn yn ostyngiad o 9 pwynt canran ers 2018.

Y gamp fwyaf poblogaidd i gymryd rhan ynddi mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf oedd pêl droed, gyda 61,000 o ddisgyblion yn dweud eu bod yn cymryd rhan yn y gamp hon yn rheolaidd. Gellir gweld dadansoddiad llawn o gyfranogiad mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn atodiad B.                                                   

Graff 3: Y chwaraeon y cymerwyd rhan fwyaf ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf

Graff gyda 5 bar llorweddol. Mae'r bar hiraf ar 19 y cant yn cynrychioli Pêl-droed fel y gamp fwyaf cyffredin i gymryd rhan ynddi.   Mae'r 4 bar arall ar 13 y cant, 10 y cant, 8 y cant a 7 y cant yn cynrychioli Nofio, Rygbi, Dawns, a Rhedeg neu Loncian fel y pedair camp fwyaf cyffredin nesaf y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt, yn y drefn honno.

3.4 Aelodaeth o glwb chwaraeon yn genedlaethol 

Dywedodd 54% (170,00) o ddisgyblion eu bod yn aelod o glwb chwaraeon yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Mae hyn yn ostyngiad ar y ffigyrau a welwyd yn 2018, pan ddywedodd 59% o ddisgyblion Cymru eu bod yn aelod o glwb chwaraeon.

 

3.5 Gwirfoddoli mewn chwaraeon yn genedlaethol

Gall disgyblion weithio tuag at genedl actif hefyd drwy helpu i gyflwyno chwaraeon. Gofynnwyd i ddisgyblion a ydynt yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned. Dywedodd 24% (75,000) o ddisgyblion eu bod yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu mewn clwb cymunedol.

Yn 2018, dywedodd 32% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu mewn clwb cymunedol.

 

3.6 Darpariaeth AG gwricwlaidd

Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â’r ymatebion a gafwyd o adran athrawon yr arolwg.

Ar gyfartaledd, darparwyd 93 munud yr wythnos o AG gwricwlaidd mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ym mlwyddyn academaidd 2021/2022. Yn yr un modd, darparwyd 93 munud yr wythnos o AG gwricwlaidd ar gyfartaledd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2021/2022.

 

Tabl 1: Munudau cwricwlaidd cyfartalog o AG a ddarperir yr wythnos, yn ôl sector

 

 20182022
Ysgolion Cynradd 99 munud93 munud
Ysgolion Uwchradd 95 munud93 munud

 

3.7 Darpariaeth AG a / neu chwaraeon ar-lein

Gofynnodd arolwg eleni hefyd i ysgolion i ba raddau yr oeddent yn cyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol gan ddefnyddio dulliau ar-lein.

Dywedodd 78% o ysgolion ledled Cymru eu bod wedi cyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol o bell gan ddefnyddio dulliau ar-lein ers dechrau’r pandemig, tra bo 32% o ysgolion wedi darparu AG a / neu chwaraeon ysgol o bell gan ddefnyddio dulliau ar-lein ers dechrau blwyddyn academaidd 2021/2022.

Dywedodd 9% o ysgolion hefyd eu bod yn bwriadu defnyddio dulliau ar-lein yn rheolaidd i gyflwyno AG a / neu chwaraeon ysgol yn y dyfodol.

 

3.8 Ffactorau sy'n dylanwadu ar y ddarpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer chwaraeon

Gofynnwyd i athrawon hefyd pa ffactorau sy'n dylanwadu'n bennaf ar y chwaraeon a gynigir yn ystod sesiynau cwricwlaidd ac allgyrsiol.

 

Tabl 2: Ffactorau sy'n dylanwadu ar y ddarpariaeth gwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer chwaraeon

 Darpariaeth chwaraeon gwricwlaidd Darpariaeth chwaraeon allgyrsiol
Y cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn yr ysgol neu yn y gymuned90%76%
Mynediad at yr offer chwaraeon angenrheidiol81%66%
Sgiliau staff79%70%
Dewisiadau disgyblion53%50%
Cyfleoedd i gystadlu yn lleol48%33%
Capasiti staff47%58%
Hyfforddiant blaenorol staff 42%28%
Dewisiadau staff37%47%
Cefnogaeth ychwanegol27%23%
Cynsail hanesyddol (h.y., rydyn ni wedi gwneud hyn erioed)21%15%
Arall3%7%

 

Adroddwyd mai argaeledd cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol neu yn y gymuned oedd y ffactor mwyaf tebygol o ddylanwadu ar y ddarpariaeth chwaraeon gwricwlaidd ac allgyrsiol. Yn y cyfamser, dywedodd athrawon bod dewis y disgyblion yn dylanwadu ar tua hanner y ddarpariaeth chwaraeon gwricwlaidd ac allgyrsiol mwn ysgolion.