Skip to main content

Sut mae ailddechrau chwaraeon yng Nghymru’n gweithio.

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae ailddechrau chwaraeon yng Nghymru’n gweithio.

Mae chwaraeon ac ymarfer yn rhan fawr o fywyd pobl yng Nghymru.                 

Mae hanner yr oedolion yn cymryd rhan unwaith yr wythnos o leiaf. Mae hanner y plant yn actif 3+ o weithiau yr wythnos.           

Ond nid yw pethau’n normal.
 

Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i gael pobl i chwarae?

 

  1. Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd pobl yn cael eu hannog i fod yn actif ac ymarfer unwaith y dydd, gan dynnu sylw at y manteision i iechyd y corff a’r meddwl. 
    Fe ddaeth cartrefi’n gampfeydd! Darllen Mwy.
     
  2. Fe welson ni fod llawer o bobl yn gallu dal ati i fod yn actif... a gwneud mwy nag o’r blaen hyd yn oed. 
    Ond fe wnaeth rhai pobl lai, yn enwedig pobl ifanc. Darllen Mwy.
     
  3. Fe wnaeth pobl ganfod ffyrdd gwahanol a chreadigol o fod yn actif a chadw eu clybiau ar agor ac yn gynaliadwy. Darllen Mwy.
     
  4. Fe wnaethom ni sefydlu grant argyfwng i helpu clybiau cymunedol i ddelio â chanlyniadau ariannol y cyfyngiadau symud. Darllen Mwy.
     
  5. Fe ddaeth sector chwaraeon Cymru at ei gilydd i helpu chwaraeon i ailddechrau mor ddiogel â phosib. 
     
  6. Un grŵp yn edrych ar chwaraeon awyr agored. Darllen Mwy.
     
  7. Un arall yn edrych ar gael cymaint o chwaraeon Elitaidd â phosib i ddechrau.             
    Gyda ffocws bob amser ar ddiogelwch a chadw at ganllawiau’r llywodraeth. Darllen Mwy.
     
  8. A thrydydd grŵp yn edrych ar chwaraeon dan do... 
    Gan ddarparu mynediad i gyfleusterau gyda’r safonau hylendid a diogelwch uchaf. Darllen Mwy.
     
  9. Roedd £4 miliwn o gyllid ar gael i helpu i Ddiogelu a Pharatoi chwaraeon i ailddechrau.
    Mae cronfa #CymruActif ar gael nawr ar gyfer ceisiadau. Darllen Mwy.
     
  10. Roedd yn golygu ein bod wedi cael cyfarfod ein ffrindiau eto, aelodau eraill y tîm
    Mae wedi bod yn wahanol, ond mae llawer ohonom ni wedi rhoi cynnig ar y gamp rydyn ni’n ei hoffi eto. Darllen Mwy.
     
  11. Mae chwaraeon wedi gwneud cynnydd. 
    Rydyn ni’n cyfarfod yn rheolaidd fel sector, a gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n darparu cyngor a chefnogaeth.   
     
  12. Ond rydyn ni’n sylweddoli bod y Feirws mewn cyfnod allweddol. 
    Rhaid i ni ddiogelu beth sydd gennym ni.
     
  13. Fe allwn ni Fod yn Actif ... ond hefyd rhaid i ni fod yn ddiogel a chyfrifol. 
    Ni allwn beryglu colli’r holl gynnydd mae chwaraeon wedi’i wneud. 
    Rydyn ni wedi dod mor bell. Darllen Mwy.
     
  14. Rydyn ni eisiau dal ati i ddiogelu chwaraeon, paratoi mwy o weithgareddau i ailddechrau a helpu i ailadeiladu cymaint ag y gallwn ni. 
    Rydyn ni wedi cael £14m gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i wneud hyn. Darllen Mwy.
     
  15. Gweithio fel tîm yw ein cryfder mawr ni mewn chwaraeon. 
    Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y canllaw
    iau diweddaraf, ewch i’n gwefan ni.
    #CymruActif #CadwCymrunDdiogel

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy