Skip to main content

Pecyn Adnoddau Digidol Cymru Actif

  1. Hafan
  2. Pecyn Adnoddau Digidol Cymru Actif

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais am grant o Gronfa Cymru Actif. Gobeithio y bydd yn cyfrannu’n dda at eich helpu i symud ymlaen gyda phrosiect newydd, cyffrous.

Mae Cronfa Cymru Actif yn cefnogi prosiectau gwych o fewn clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru a dim ond diolch i'r Loteri Genedlaethol y mae hyn yn bosibl.

Mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos at achosion da diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at ba mor ddiolchgar ydyn ni am eu help, fel eu bod yn parhau i’ch cefnogi chi yn y dyfodol.

Byddem wrth ein bodd pe baech yn llunio negeseuon am eich grant i godi ymwybyddiaeth o sut mae Cronfa Cymru Actif yn helpu eich clwb, rhoi gwybod i glybiau eraill sut gallai eu helpu, a diolch i’r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.

Isod, fe welwch chi nifer o adnoddau a fydd yn eich helpu i ddweud diolch, gan gynnwys:

  • Syniadau ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw.
  • Datganiad i'r wasg neu ar gyfer eich gwefan.
  • Teils cyfryngau cymdeithasol y mae posib eu lawrlwytho.

Os oes arnoch chi angen rhagor o gyngor, anfonwch e-bost atom ni ar: [javascript protected email address]


Enghreifftiau o Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol

Fe welwch chi bedwar o deils cymdeithasol y mae posib eu lawrlwytho isod.

Mae posib defnyddio’r teils yma i ledaenu’r newyddion am eich cyllid ar draws eich platfformau cymdeithasol a dweud diolch yn fawr wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.

Peidiwch ag anghofio ein tagio ni @sportwales a @lottogoodcauses a defnyddio’r hashnodau: #CymruActif, #DiolchIChi, #LoteriGenedlaethol 

Isod mae rhai negeseuon a awgrymir y gallech fod eisiau eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Neges cyfryngau cymdeithasol #1 

Bydd cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn ein helpu ni i symud ymlaen â’n prosiect nesaf. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi

Gwybodaeth am sut gallai eich clwb elwa o arian y loteri hefyd yn www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif

 

Neges cyfryngau cymdeithasol #2 

Bydd cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn helpu i gael mwy o bobl i fod yn actif yn ein cymuned ni. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi 

Mwy o wybodaeth: www.chwaraeon.cymru

 

Neges cyfryngau cymdeithasol #3 

Mae cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn ein helpu ni i ddod â'n syniad cyffrous yn fyw! Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi

Mwy o wybodaeth: www.chwaraeon.cymru


Enghraifft o Ddatganiad i'r Wasg

Dyma dempled ysgrifenedig y gallwch ei olygu i gynnwys manylion am eich cyllid fel eich bod, gobeithio, yn gallu hawlio’r penawdau yn eich ardal leol. Anfonwch e-bost (gyda llun os yw hynny’n bosibl) at eich papur newydd lleol, gwefan neu orsaf radio. Gan fod newyddiadurwyr yn derbyn nifer o ddatganiadau i'r cyfryngau bob dydd, does dim byd o'i le gyda dilyn hyn gyda galwad ffôn gyflym hefyd!

Teitl:

(Nodwch enw’r clwb / sefydliad) wedi derbyn cyllid ‘Cymru Actif’.

Prif Gorff:

Mae (Nodwch enw’r clwb / sefydliad) wedi derbyn cyfran o arian y Loteri Genedlaethol sydd wedi'i anelu at gefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Dyfarnwyd (nodwch y swm) i (Nodwch enw’r clwb / sefydliad) gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i’w helpu (Nodwch y manylion – gan egluro’r prosiect).

Drwy ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau i glybiau i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i helpu i gadw pobl yn cymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau i’r dyfodol.

Dywedodd (Nodwch enw llefarydd y clwb / sefydliad): “Bydd y cyllid yma’n gwneud byd o wahaniaeth i’n clwb ni. Rydyn ni’n gobeithio ei ddefnyddio i sicrhau bod ein clwb (yn gallu bod yn fwy cynaliadwy / mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymuned / bod yn fwy arloesol) a fydd yn sicr o ddenu mwy o bobl i fwynhau’r manteision chwaraeon y mae ein haelodau presennol yn eu mwynhau eisoes.”

I gael gwybod mwy am Gronfa Cymru Actif, ewch i www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif

Diwedd

Sbotolau Partner: Y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod yn bartner allweddol i Chwaraeon Cymru – o gyllido clybiau ar lawr…

Darllen Mwy

Sbotolau Partner: Girlguiding Cymru

Cysylltodd Girlguiding Cymru â Chriced Cymru i gyflwyno'r gamp i ferched ifanc ar draws y wlad.

Darllen Mwy

Clwb Sboncen Merthyr: sut mae cronfa bod yn heini cymru wedi helpu mwy o ddarpar sêr Sboncen i godi'r raced

Mae gan y Clwb a daniodd freuddwydion Arwr Gemau'r Gymanwlad, Joel Makin gynlluniau mawr ar gyfer recriwtiaid…

Darllen Mwy

Y rôl bwysig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ei chwarae yn nhwf rygbi merched Cymru

Byddai Cwpan y Byd llwyddiannus i Gymru yn gweld y ‘llifddorau’ yn cael eu hagor ymhellach, a gêm y…

Darllen Mwy

Anrhydedd loteri i Tirion, pencampwr cymunedol

Mae Tirion Thomas, un o wirfoddolwyr Clwb Rygbi'r Bala, wedi cael ei hanrhydeddu am ei gwaith cymunedol…

Darllen Mwy

3 ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru helpu clybiau hoci yng Nghymru

Gadewch i ni edrych ar dair ffordd y gall Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru helpu eich clwb hoci.

Darllen Mwy