Skip to main content

Pum ffordd y gall Chwaraeon Cymru ariannu rygbi merched yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pum ffordd y gall Chwaraeon Cymru ariannu rygbi merched yng Nghymru

Ai eich clwb rygbi chi yw’r lleoliad lle bydd y Gwenllian Pyrs neu’r Hannah Jones nesaf yn syrthio mewn cariad â’r gêm? Gyda Chymru yn creu argraff ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i Ferched, does dim amser gwell i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi benywaidd yn eich clwb, a gall Chwaraeon Cymru helpu!

Os ydych chi eisiau gwella rygbi merched yn eich clwb presennol, neu os hoffech chi greu cyfleoedd newydd sbon, dyma bum ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru eich helpu chi i gael mwy o ferched a genethod i fwynhau’r gamp.

Sefydlu Tîm Merched neu Enethod

Gall sefydlu clwb neu dîm newydd ymddangos braidd yn frawychus, ond rydyn ni wedi helpu llawer o glybiau newydd i ddod o hyd i’w traed gydag offer a chyrsiau hyfforddi. Os ydych chi’n defnyddio cae 3G ar gyfer hyfforddiant, gall Cronfa Cymru Actif helpu gyda llogi cyfleusterau am y deg wythnos gyntaf hyd yn oed, i helpu i gadw eich costau i lawr!

Fe dderbyniodd y North Wales Crusaders £3,849 o Gronfa Cymru Actif i sefydlu tri thîm merched newydd yn eu clwb rygbi, gan gynnwys dau dîm genethod dan 12 a 14 oed, yn ogystal â thîm merched.

Dydi rhedeg a thaclo ddim at ddant pawb felly efallai y byddwch eisiau edrych ar wahanol amrywiadau ar y gamp i ddenu mwy o ferched a genethod i gymryd rhan. Wedi ystyried addasu rygbi ar gyfer merched hŷn neu ferched ag anableddau erioed? Mae rygbi cerdded, rygbi cyffwrdd a rygbi cadair olwyn yn fersiynau amgen eraill o'r gamp a allai gael mwy o ferched i gymryd rhan. Holwch am gyngor drwy siarad ag Undeb Rygbi Cymru, Rygbi Cynghrair Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru neu dîm datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.

Gwell cyfleusterau oddi ar y cae

Mae sicrhau bod gan eich clwb ystafelloedd newid a thoiledau sy’n addas i fenywod yn ffordd arall y gallwch chi helpu merched i deimlo’n gartrefol ac yn gyfforddus. Gall cyfleusterau annigonol i ferched ar eu mislif greu rhwystr i ferched a genethod gymryd rhan mewn chwaraeon. Fe ganfu Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 y byddai 8% o ferched ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon pe gallent reoli eu mislif yn well.

Felly, beth am wneud rhai gwelliannau oddi ar y cae i helpu eich clwb i ddod yn amgylchedd gwell lle gall merched wirioneddol ffynnu mewn rygbi? Ewch i wefan Crowdfunder i weld sut i greu prosiect codi arian gwych a allai dderbyn hyd at £15,000 mewn arian cyfatebol gan Gronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru. Gallai fod yn rhywbeth mor syml â sicrhau bod gan eich clwb y biniau priodol yn y toiledau, neu brosiect mwy fel ystafelloedd newid newydd i ferched.

North Wales Crusaders

Offer Newydd

Peli rygbi, bagiau taclo, tagiau, neu gonau; os oes angen offer newydd ar gyfer rygbi merched yn eich clwb chi, gall Cronfa Cymru Actif helpu.

Yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, fe ddywedodd 31% o’r merched a ymatebodd y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn teimlo’n fwy hyderus, ac mae gwneud yn siŵr bod gan bawb y cit cywir yn ffordd gyflym a hawdd o helpu chwaraewyr benywaidd yn eich clwb i deimlo bod croeso iddynt.

Angen mwy o offer i gefnogi tîm rygbi merched yn eich clwb? Neu eisiau uwchraddio offer hen ffasiwn neu ail-law? Gwnewch gais am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif i ddarparu'r cit maen nhw’n ei haeddu i ferched ym myd rygbi.

Llifoleuadau

Gall cael amser cyfyngedig i hyfforddi fod yn rhwystr i chwarae rygbi, felly gall buddsoddi mewn llifoleuadau ynni-effeithlon greu mwy o gyfleoedd i dîm rygbi merched chwarae rygbi yn eich clwb, hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu.

Os oes angen uwchraddio eich offer presennol neu os na allwch chi ddefnyddio eich cae o gwbl gyda’r nos, mae llifoleuadau’n nodwedd wych arall y gall Cronfa Cymru Actif ei chefnogi.

Cyrsiau i Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr

Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr wrth galon pob clwb rygbi – hebddynt, ni fyddai clwb i fynd iddo! Bydd Cronfa Cymru Actif yn cefnogi cyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi, dyfarnu a chymorth cyntaf yn eich clwb. Os ydych chi'n hyfforddi mwy o bobl, gallwch gynnal mwy o sesiynau a gweithredu mwy o dimau, gan gynnwys un ar gyfer merched a genethod. 

Dyma'n union beth wnaeth y North Wales Crusaders! Maen nhw wedi derbyn cyllid ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf a chyrsiau diogelu ar gyfer eu hyfforddwyr a’u gwirfoddolwyr i gadw merched a phlant yn ddiogel wrth chwarae rygbi.

Fe all cyrsiau hyfforddi sicrhau hefyd bod eich sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer anghenion penodol merched mewn chwaraeon, felly hyfforddwch y gwirfoddolwyr hynny ac ewch amdani!

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd tuag at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

Os ydych chi eisiau sefydlu tîm neu glwb newydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar y pum cam pwysig yma at sefydlu clwb chwaraeon newydd.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

79 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy