Skip to main content

Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn asiantaeth Chwaraeon Genedlaethol ar gyfer pob anabledd sy'n darparu ac yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol cynhwysol (gan gynnwys chwaraeon) ar gyfer pobl anabl yng Nghymru.

Gyda gweledigaeth i drawsnewid bywydau drwy bŵer chwaraeon, mae ChAC yn darparu miloedd o gyfleoedd chwaraeon sy'n cynnwys anabledd ledled Cymru.

Beth yw prif amcanion Chwaraeon Anabledd Cymru?

Nod ChAC yw cyfrannu at y ‘Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon’ drwy greu sector chwaraeon mwy cynhwysol lle mae pob person anabl wedi gwirioni ar chwaraeon, gan gynnig dewis real o ran ble, pryd a pha mor aml mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Maent yn credu y bydd y dull hwn yn helpu i sicrhau nod y sector o ‘fwy o bobl, yn fwy actif, yn amlach’.

Sut mae gwaith Chwaraeon Anabledd Cymru yn helpu Chwaraeon Cymru i gyflawni Cenedl Actif?

Mae gwerthoedd ChAC yn cyd-fynd â gwerthoedd Chwaraeon Cymru a'r sector. Maent yn defnyddio cenadaethau'r sector ac yn eu teilwra i anghenion pobl anabl yng Nghymru.

Gan annog pobl anabl i fod yn rhan o chwaraeon, mae ChAC yn helpu gyda’r genhadaeth o greu cenedl actif drwy ddarparu miloedd o gyfleoedd chwaraeon cynhwysol i'r rhai ag anableddau.

Nid yn unig maent yn darparu chwaraeon i bobl anabl, ond maent hefyd yn helpu i alluogi chwaraeon drwy ddarparu gweithdai ac adnoddau dysgu ar gyfer darparwyr chwaraeon eraill. Gall y rhai sy'n gweithio yn y sectorau chwaraeon, hamdden, addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol gael mynediad i'r rhain, er mwyn cefnogi eu datblygiad a'u darpariaeth o gyfleoedd sy'n cynnwys pobl anabl

Sut gall Chwaraeon Anabledd Cymru gefnogi'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Un o brif flaenoriaethau strategol ChAC yw ‘sefydlu partneriaeth effeithiol ar gyfer diwylliant sector cynhwysol. Dyma pam mae ChAC yn cydnabod bod dull a arweinir gan bartneriaid yn hanfodol i drawsnewid bywydau drwy bŵer chwaraeon. Maent yn dweud na allant sicrhau newid sylweddol ar eu pen eu hunain a bod angen iddynt ddod â phartneriaid presennol, yn ogystal â phartneriaid newydd, ar eu siwrnai gyda hwy. Maent yn herio eu partneriaid a'r tirlun chwaraeon ehangach i dderbyn a chofleidio cynhwysiant, ac wrth wneud hynny, maent yn darparu lefelau uwch fyth o weithgarwch i bobl anabl.

Mae eu prosiect insport yn darparu cefnogaeth i glybiau, cyrff rheoli cenedlaethol a sefydliadau eraill y trydydd sector. Maent yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi cynhwysiant anabledd, arweiniad ac adnoddau a all helpu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i greu amgylchedd mwy cynhwysol i bobl anabl mewn chwaraeon.

Logo Chwaraeon Anabledd Cymru

Esiamplau o waith Chwaraeon Anabledd Cymru           

Cysylltu â Chwaraeon Anabledd Cymru

Gwefan: www.disabilitysportwales.com
E-bost: office@disabilitysportwales.com

Twitter: @dsw_news
Facebook: @disabilitysportwales
Instagram: @disability_sport_wales