Skip to main content

Youth Sport Trust

Mae’r Youth Sport Trust yn elusen sy'n teimlo’n angerddol am greu dyfodol gwell i bobl ifanc gan ddefnyddio chwarae a chwaraeon. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio pŵer chwaraeon i arfogi addysgwyr a grymuso pobl ifanc, gwella lles, meithrin sgiliau arwain a chefnogi POB person ifanc i gyflawni ei botensial.

Beth yw prif amcanion yr Youth Sport Trust?

Dyma feysydd ffocws yr Youth Sport Trust (YST):

Trawsnewid Addysg Gorfforol – mae’r YST yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddatblygu ac ail-leoli addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion.

Dileu Rhwystrau sy’n atal Chwaraeon – mae’r YST yn cefnogi ysgolion, clybiau a theuluoedd i ddileu’r achosion sy’n creu profiadau negyddol i bobl ifanc.

Datgloi Potensial - mae’r YST wedi ymrwymo i weithio i gau'r bylchau sydd wedi’u creu gan anghydraddoldeb ac anfantais.

Grymuso Gweithredu – mae’r YST yn cyflwyno mentrau sy'n grymuso arweinwyr ifanc drwy ac mewn chwaraeon i greu/ymuno â symudiadau gweithredu cymdeithasol a rhannu eu lleisiau i greu newid.

Hyrwyddo Gwybodaeth – bydd yr YST yn darparu ac yn rhannu ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth gyda phartneriaid.

Sut mae gwaith yr Youth Sport Trust yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Drwy ei gwahanol brosiectau, mae’r YST yn annog datblygu sgiliau, cyfranogiad mewn chwaraeon a chefnogi grwpiau heb eu cynrychioli'n ddigonol.

Gall unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli mewn chwaraeon gael cymorth gan yr YST. Os yw person ifanc eisiau helpu eraill i wella eu lles drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol gall yr YST ei helpu i ddatblygu ei sgiliau arwain.

Drwy'r prosiect Girls Active, mae’r YST yn helpu athrawon ac arweinwyr benywaidd i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut gallant sicrhau bod merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon ysgol ac Addysg Gorfforol ac yn eu mwynhau.

Hefyd mae’r YST wedi helpu i ddatblygu a chefnogi rhwydwaith o Benaethiaid ac athrawon Addysg Gorfforol ledled Cymru i ddod yn eiriolwyr dros Chwaraeon Ysgol ac Addysg Gorfforol.

Sut gall yr Youth Sport Trust gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Fel rhan o'i gwaith, mae’r YST yn ymgysylltu â nifer o randdeiliaid gan gynnwys pob un o'r 22 tîm Datblygu Chwaraeon yn yr Awdurdodau Lleol, cyrff rheoli cenedlaethol, Colegau Cymru, Prifysgolion, WCVA a phartneriaid Cenedlaethol eraill fel Sports Leaders a Street Games. Mae hefyd wedi datblygu perthynas gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Felindre, Swyddfa'r Comisiynydd Plant a Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r YST yn teimlo’n angerddol am gefnogi sefydliadau chwaraeon ledled Cymru i ddatblygu eu rhaglenni a'u llwybrau arweinyddiaeth ieuenctid, gan gynyddu sgiliau arwain y bobl ifanc sy'n ymwneud â'u sefydliad.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cynnal ymchwil a all ychwanegu gwerth at y gwaith y mae llawer o bartneriaid yn ei wneud ledled Cymru ac rydym wedi'i roi mewn llyfryn i bartneriaid ei ddefnyddio.

Esiamplau o waith yr Youth Sport Trust  

Dyfarniad Chwaraeon Yn Rhoi’n Ôl Saadia Abubaker

Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru – Wrecsam

Gwobr i Tirion yr arwr tawel

Cysylltu â’r Youth Sport Trust

Gwefan: https://www.youthsporttrust.org/
E-bost: [javascript protected email address]

Facebook: @YouthSportTrust & @YACymru
Twitter: @YouthSportTrust & @YACymru
Instagram: @YouthSportTrust & @YACymru