Skip to main content

Sefydliad Dawns UDOIT!

Sefydlwyd Sefydliad Dawns UDOIT! yn 2014 ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i gael mynediad at ddawnsio stryd. Mae’n rhoi cyfle i bob person ifanc brofi'r pŵer y gall Dawnsio Stryd ei gael ar ei iechyd corfforol a meddyliol drwy glybiau cymunedol, darpariaeth ysgol, cystadleaethau a chyfleoedd arweinyddiaeth.

Beth yw prif amcanion Sefydliad Dawns UDOIT!?

Slogan Sefydliad Dawns UDOIT! yw "Ysbrydoli, Ymgysylltu a Grymuso – Gwneud Dawnsio Stryd yn Hygyrch i Bawb". 

Mae’n credu mewn rhoi cyfle i blant difreintiedig gymryd rhan mewn Dawnsio Stryd, ac elwa o hynny, fel ffordd o fod yn actif a meithrin hyder a hunan-barch.

Nod UDOIT! yw sicrhau bod dawns yn adnodd dargyfeiriol sy'n helpu i ailgysylltu pobl ifanc ag addysg, helpu i leihau cyfraddau troseddu ac aildroseddu, lleihau triwantiaeth (yn enwedig o wersi Addysg Gorfforol) a darparu gweithgarwch corfforol i bobl ifanc i'w cadw'n iach, yn feddyliol ac yn gorfforol.

Sut mae gwaith Sefydliad Dawns UDOIT! yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Mae rhaglen clybiau lloeren UDOIT! yn galluogi i blant a phobl ifanc roi cynnig ar ddawnsio stryd yng nghysur eu hamgylchedd ysgol eu hunain. Mae'r sesiynau 'blasu' hyn yn cael eu cynnal yn ystod gwersi Addysg Gorfforol gan roi cyfle i'r bobl ifanc hynny sy’n rhy nerfus efallai i roi cynnig ar ddawnsio stryd i fynd amdani. Os ydynt yn ei fwynhau, mae hyn wedyn yn symud ymlaen i glwb ar ôl ysgol/amser cinio.

Mae UDOIT! yn cynnal Pencampwriaethau Dawnsio Stryd Cenedlaethol Ysgolion Cymru sy'n galluogi i blant ysgol gael mynediad i gystadleuaeth Dawnsio Stryd o ansawdd uchel gyda mynediad at gyfleoedd dysgu gan feirniaid proffesiynol y diwydiant. 

Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant i hyfforddwyr mewn Dawnsio Stryd ar Lefel 1 a 2.

 

Sut gall Sefydliad Dawns UDOIT! gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Mae UDOIT! yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau i sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at Ddawnsio Stryd a rhoi cynnig arno ar garreg eu drws. Mae llwybrau i bawb gael profiad gwych o Ddawnsio Stryd, o gymryd rhan i gystadlu, a rhaglenni hyfforddi ar gyfer y rhai a hoffai gael eu uwchsgilio i gyflwyno'r gweithgaredd i eraill. 

Gall UDOIT! gefnogi eraill a hoffai ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd a darparu dewis amgen a hwyliog yn lle darpariaeth chwaraeon draddodiadol!

Logo UDOIT!

Esiamplau o waith Sefydliad Dawns UDOIT! 

Clwb Lloeren

Sefydliad Dawns Ysgolion Cenedlaethol       

Darparu yn ystod y cyfyngiadau symud (gyda fersiwn Cymraeg)

Cysylltu â Sefydliad Dawns UDOIT!

Gwefan: www.udoitdance.co.uk
E-bost: [javascript protected email address]   

Facebook: @udoitdancefoundation
Twitter: @udoitdance
Instagram: @udoitdancefoundation