Skip to main content

StreetGames

Mae StreetGames yn ffrwyno pŵer chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc ddifreintiedig ledled y DU. Mae gwaith StreetGames yn helpu i wneud pobl ifanc a'u cymunedau yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy llwyddiannus.

Beth yw prif amcanion StreetGames?

Cenhadaeth StreetGames yw defnyddio pŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella bywydau pob plentyn a pherson ifanc difreintiedig yng Nghymru a'r cymunedau maent yn byw ynddynt.

Sut mae gwaith StreetGames yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Mae Chwaraeon Cymru eisiau i BAWB yng Nghymru elwa o gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau cymryd rhan ynddynt. Mae gwaith StreetGames yn ein helpu i gyflawni hyn drwy fynd i'r afael â'r lefel uchel o anghydraddoldeb rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf.

Maent yn cefnogi sefydliadau cymunedol y gellir ymddiried ynddynt yn lleol sy'n gweithio gyda phlant difreintiedig a gyda phobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae pob Awdurdod Lleol ledled Cymru wedi sefydlu perthynas gyda StreetGames i'w galluogi i weithio yn yr ardaloedd 'anodd eu cyrraedd' hynny.

Sut gall StreetGames gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Gall sefydliadau eraill gael eu cefnogi gan StreetGames drwy ganiatáu iddynt gael mynediad i'w rhwydwaith o sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt yn lleol sydd wedi cyrraedd cymunedau ac ardaloedd difreintiedig.

Academi hyfforddi arobryn StreetGames a'r gronfa o diwtoriaid arbenigol sy'n gallu cyflwyno gweithdai hyfforddi pwrpasol ac "oddi ar y silff" a chymwysterau ar gyfer sefydliadau a phartneriaid. Gellir darparu llawer o'r cyrsiau hyfforddi hyn ar-lein hefyd. Mae'r hyfforddiant yn amrywio o weithdai Ysgogwr ymarferol i sesiynau theori sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a newid ymddygiad, a chymwysterau chwaraeon ac iechyd.

Logo StreetGames

Esiamplau o waith StreetGames 

Prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd StreetGames: https://www.streetgames.org/news/new-case-studies-show-power-of-sport-to-bring-families-together

Y Profiad o Gyfyngiadau Symud y Coronafeirws mewn Ardaloedd Incwm Isel yng Nghymru a Lloegr https://www.streetgames.org/the-experience-of-the-coronavirus-lockdown-in-low-income-areas-of-england-and-wales 

‘Fit and Fed’ StreetGames yng Nghymru https://network.streetgames.org/resources/fit-and-fed-wales-summer-2019

Cysylltu â StreetGames

Gwefan: https://www.streetgames.org/

Rhif Ffôn: 01617070782
E-bost: [javascript protected email address]

Twitter: @streetgamewales @streetgames @UsGirlsUK
Instagram: @streetgameswales @streetgamesuk