Skip to main content

Sports Leaders UK

Mae Sports Leaders UK (SLUK) yn darparu dyfarniadau a chymwysterau arweinyddiaeth effaith uchel, cost effeithiol i fwy na 100000 o bobl ifanc bob blwyddyn. Am bron i 40 mlynedd, mae wedi meithrin enw da fel corff dyfarnu sy'n datblygu sgiliau bywyd ymhlith pobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Beth yw prif amcanion Sports Leaders UK?

Gyda gweledigaeth ar gyfer 'Pob Person Ifanc i Wireddu eu Potensial,' prif nod SLUK yw datblygu arweinwyr hyderus ac iach drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Drwy eu dyfarniadau a'u cymwysterau, nod SLUK yw meithrin sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc ar gyfer bywyd gan wella cymhelliant, hunan-barch, cyfathrebu, gwaith tîm a hyder. Mae gwirfoddoli arweinyddiaeth yn rhan hanfodol o'n holl gyrsiau, sy'n galluogi i bobl ifanc ymarfer a meithrin eu sgiliau i'w helpu mewn cyflogaeth ac addysg.

Mae SLUK eisiau sicrhau bod gan bob person ifanc y gallu i wireddu ei botensial, beth bynnag fo'i lwybr gyrfa, drwy fapio sgiliau yn erbyn eu Cymwysterau a'u Dyfarniadau.

Sut mae gwaith Sports Leaders UK yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Mae buddsoddiad Chwaraeon Cymru yn galluogi tîm Sports Leaders i ganolbwyntio ar gefnogi model ymgysylltu llwyddiannus sydd eisoes wedi'i sefydlu gan awdurdodau lleol. Mae'n helpu i sicrhau bod partneriaid a 'Chanolfannau' allweddol yn cael eu cefnogi i diwtora, cyflwyno ac asesu ein cymwysterau'n llwyddiannus. 

Gan ddefnyddio ei arbenigedd fel corff dyfarnu sy'n gweithredu ym maes addysg ac ar draws lleoliadau chwaraeon cymunedol, nod SLUK yw cefnogi pob person ifanc 9 i 18 oed o bob cefndir ar draws pob cymuned yng Nghymru

Mae mwy na 50,000 o Gymry ifanc (52% benywaidd) wedi ennill cymhwyster a/neu ddyfarniad drwy Sports Leaders UK. Mae hyn wedi cyfrannu at ddarparu mwy nag 1 miliwn o oriau dysgu a gwirfoddoli yng Nghymru.

Sut gall Sports Leaders UK gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Mae awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, clybiau chwaraeon cymunedol, cyrff rheoli cenedlaethol a phartneriaid cenedlaethol eraill fel yr Urdd, YST a StreetGames wedi'u cynnwys yn naturiol ym model a darpariaeth SLUK. 

Mae model SLUK yn helpu i ddylanwadu ar y sector addysg yng Nghymru a chreu byddin o wirfoddolwyr cymwys a medrus bob blwyddyn (10,000+ bob blwyddyn) lle caiff cyfleoedd pellach eu creu i gefnogi rhaglenni a ddarperir gan bartneriaid strategol eraill yng Nghymru.

Mae'n creu hyfforddwyr a swyddogion yfory ac yn creu seilwaith y mae sefydliadau eraill, partneriaid a'r sector yn elwa ohono.

Esiamplau o waith Sports Leaders UK 

Ysgol Sant Christopher, Wrecsam

Arweinwyr Chwaraeon yng Nghymru

Siwrnai Arweinydd Chwaraeon Anna

Cysylltu â Sports Leaders UK

Gwefan: www.sportsleaders.org
E-bost: [javascript protected email address]

Facebook: @SportsLeaders 
Twitter: @SportsLeaders