Skip to main content

Y Bartneriaeth Awyr Agored

Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru a ledled gweddill y DU i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel gweithgarwch gydol oes. Eu gweledigaeth yw: “Gwella bywydau pobl drwy weithgarwch awyr agored.” Mae hyn yn golygu gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl, a’u lles, gan wella budd economaidd a gwerth cymdeithasol gweithgarwch awyr agored fel cerdded, beicio a chwaraeon antur.

Beth yw prif amcanion y Bartneriaeth Awyr Agored?

O fewn ei gweledigaeth, dyma brif amcanion y bartneriaeth:

  • Ceisio cyflwyno newid mewn cenhedlaeth i annog cyfranogiad gydol oes mewn gweithgarwch awyr agored a chefnogi'r adferiad o bandemig Covid;
  • Meithrin gallu i gefnogi cyfranogiad lleol, perfformiad, datblygu sgiliau (profiadau tro cyntaf - hyd at weithgareddau cynaliadwyedd ac ailadrodd yn y tymor hir) a chyflogaeth o bob oed;
  • Gwella model darparu partneriaid i ddatblygu'r fframwaith cyfredol ledled gweddill Cymru; datblygu cynhyrchion o safon i ddarparu profiadau awyr agored pleserus.

Sut mae gwaith y Bartneriaeth Awyr Agored yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Mae annog pobl i fod yn actif yn yr awyr agored wrth galon y Bartneriaeth Awyr Agored. Ac mae wedi ehangu ei chyrhaeddiad bellach o Ogledd Cymru, i gynnwys y wlad gyfan.

Targedir grwpiau difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol gan ddefnyddio gweithgarwch awyr agored, gyda ffocws ar gyfranogiad ar lawr gwlad a phobl ifanc. Mae iechyd meddyliol a chorfforol a lles yn flaenoriaethau - yn enwedig wrth gefnogi adferiad Covid.

Gall codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys prentisiaethau, a darparu hyfforddiant ac addysg helpu i wella cyflogadwyedd yn y sector. Gall pobl ddi-waith symud ymlaen i ddysgu pellach a chyflogaeth barhaus drwy'r cyfleoedd hyn. Yn ogystal â darparu cymwysterau i athrawon a rhieni, gall datblygu clybiau awyr agored cymunedol ac aelodau arwain at fwy o wirfoddolwyr sydd â chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol yn gweithio yn lleol.

Sut gall y Bartneriaeth Awyr Agored gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Mae datblygu partneriaethau newydd a dysgu ar y cyd wedi bod yn allweddol i ehangu'r Bartneriaeth Awyr Agored yng Nghymru. Sicrheir dysgu ar y cyd drwy hyrwyddo eiriolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Maent yn gweithio gyda'u partneriaid a'u rhanddeiliaid allweddol i ddarparu a hyrwyddo presgripsiynau cymdeithasol gyda mynediad i'r awyr agored fel prif ffocws.

Bydd y model cyfredol yn cael ei ddatblygu'n barhaus drwy adnabod partneriaethau newydd posibl a datblygu pecynnau cymorth i alluogi meysydd newydd i hyrwyddo ethos a gwerthoedd y Bartneriaeth Awyr Agored.

Logo Partneriaeth Awyr-Agored

Esiamplau o waith y Bartneriaeth Awyr Agored       

Y Bartneriaeth Awyr Agored

Antur i bawb – Antur Gynhwysol

Cysylltu â’r Bartneriaeth Awyr Agored

Gwefan: www.outdoorpartnership.co.uk
E-bost: [javascript protected email address]

Twitter: @PAA_TOP
Facebook: @OutdoorPartnership
Instagram: @paa.top