Skip to main content

BME Sport Cymru (CGGC)

Mae BME Sport Cymru yn bartneriaeth strategol rhwng y WCVA a rhwydwaith o bartneriaid darparu a chefnogi.

Mae hon yn fenter sydd wedi'i chynllunio i'w gwneud yn haws i gymunedau BME ymgysylltu â chwaraeon yng Nghymru. Ariennir y prosiect gan Chwaraeon Cymru ac mae'n cael ei arwain gan y WCVA.

Beth yw prif amcanion BME Sport Cymru?

Sefydlwyd prosiect BME Sport Cymru yn 2016 i gefnogi dull cynaliadwy o roi sylw i gyfranogiad chwaraeon BME, gyda 3 blaenoriaeth allweddol:

  1. Cynyddu cyfranogiad BME mewn chwaraeon       
  2. Meithrin capasiti ar gyfer ymgysylltiad BME mewn chwaraeon 
  3. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Ei nod yw gwneud clybiau chwaraeon yn fwy croesawgar a chynhwysol i bobl o gefndiroedd ethnig a chrefyddol amrywiol drwy gynnig arweiniad i helpu i gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o rwystrau.

Sut mae gwaith BME Sport Cymru yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Mae BME Sport Cymru yn helpu i gynyddu cyfranogiad BME mewn chwaraeon yng Nghymru drwy gefnogi sefydliadau i weithio gyda chymunedau o leiafrifoedd ethnig.

Mae'r prosiect yn gweithio drwy gynnig arweiniad ar sut i wneud clybiau chwaraeon yn fwy croesawgar a chynhwysol i bobl o gefndiroedd ethnig a chrefyddol amrywiol. 

Cyflwynir hyfforddiant a gweithdai hefyd i gynyddu gwybodaeth, ymwybyddiaeth o rwystrau a sut i ymgysylltu â gwahanol grwpiau BME.

Sut gall BME Sport Cymru gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Y WCVA yw'r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ac mae BME Sport Cymru yn gweithio'n agos gyda ChAC, Streetgames, Newport Live ac EYST.

Mae BME Sport Cymru yn cefnogi Cyrff Rheoli Cenedlaethol, clybiau, cyfleusterau hamdden a darparwyr chwaraeon eraill gyda gwybodaeth a dysgu am ymgysylltu â chymunedau amrywiol a sut i wneud gwasanaethau'n hygyrch i'r grwpiau ethnig a chrefyddol hyn. 

Felly, mae'r cymunedau amrywiol yn elwa'n anuniongyrchol o hyn hefyd.

Mae’r WCVA yn hwyluso nifer o rwydweithiau sy'n ceisio dod â phobl o'r sector ynghyd i drafod materion o dan themâu penodol.

Esiamplau o waith BME Sport Cymru 

BME Sport Cymru – Clwb Pêl Rwyd Splott Superstars 
Prosiect BME Sport Cymru y CGGC

Cysylltu â BME Sport Cymru

Gwefan: www.wcva.cymru
E-bost: Rajma Begum - [javascript protected email address]

Cyfryngau Cymdeithasol: @BMESportCymru