Skip to main content

Yr Urdd

Yr Urdd

Mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau rhwng 3 a 25 oed, sy'n golygu mai dyma'r sefydliad ieuenctid mwyaf yn Ewrop.

Ers 1922, mae'r Urdd wedi rhoi cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru fwynhau profiadau chwaraeon, celfyddydau, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd wedi ei alluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at ei gymunedau a'i gymdeithas, yn ogystal ag ehangu eu gorwelion a chynyddu eu hunanhyder.

Beth yw prif amcanion yr Urdd?

Defnyddio pŵer y Gymraeg i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd a'u cael i gymryd rhan weithredol mewn chwaraeon wythnos ar ôl wythnos am oes. Mae gan yr Urdd Gynllun Datblygu Cenedlaethol cynhwysol ar waith sy'n cael ei gefnogi gan rwydwaith o staff, prentisiaid, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr medrus a brwdfrydig iawn sy'n ein galluogi i gyrraedd ein targedau a'n canlyniadau Cenedlaethol.

Sut mae gwaith yr Urdd yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Ym maes chwaraeon, mae pedwar maes blaenoriaeth wedi'u nodi gan yr Urdd sy'n adlewyrchu Gweledigaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer Chwaraeon - Ysgolion a'r Gymuned, Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldeb, Datblygu'r Gweithlu a'r Llwybr Chwaraeon.

Mae'r Urdd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion a Chymunedau i ddatblygu a chynyddu cyfleoedd cynhwysol i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn clybiau chwaraeon. Maent yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd i ddarparu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i bawb.

Byddai chwaraeon heb hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn ei chael yn anodd gweithredu. Mae'r Urdd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr mewn partneriaeth â'u rhanddeiliaid allweddol. Bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu, waeth beth fo'u safon, fel bod cystadleuaeth gynhwysol ledled Cymru. 

Sut gall yr Urdd gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Gall yr Urdd helpu i gynnig cymorth i glybiau a sefydliadau ynglŷn â darparu eu gwasanaethau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Gydag arbenigedd mewn trefnu a chynnal cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol lefel uchel, gall yr Urdd ddarparu profiad a chefnogaeth i bartneriaid i gynorthwyo gydag unrhyw ddigwyddiadau chwaraeon.

Mae'r Urdd yn cynnig Prentisiaethau Chwaraeon a Hyfforddiant Awyr Agored ledled Cymru, gan roi cyfle i bartneriaid weithio a dysgu gyda'u staff medrus a phrofiadol. Mae eu staff hefyd ar gael yn hwylus i gefnogi prosiectau Cenedlaethol.

Logo Urdd

Esiamplau o waith yr Urdd           

Cysylltu â’r Urdd

Gwefan: www.urdd.cymru
E-bost: [javascript protected email address]

Twitter: @chwaraeonyrurdd
Facebook: @chwaraeon.yrurdd
Instagram: @chwaraeonurdd