Skip to main content

Sefydliad Sported

Sefydliad Sported yw rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol sy'n cefnogi hanner miliwn o bobl ifanc i oresgyn rhwystrau i gyrraedd eu llawn botensial.

Ei rôl yw grymuso'r arwyr lleol sy'n cynnal y grwpiau hyn drwy ddarparu arbenigedd proffesiynol, adnoddau a chymorth gweithredol y mae eu gwir angen, am ddim, i helpu eu grŵp i oroesi a ffynnu.

Beth yw prif amcanion Sefydliad Sported?

Y Weledigaeth – mae Sported eisiau i bob person ifanc gael yr un cyfle i gyflawni ei botensial.

Y Pwrpas - mae Sported yn bodoli i gyrraedd, cynnwys a grymuso cymunedau drwy ddarparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynaliadwy yn lleol.

Y Genhadaeth - mae Sported yn helpu grwpiau cymunedol i oroesi, i helpu pobl ifanc i ffynnu.

Sut mae gwaith Sefydliad Sported yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Fel rhwydwaith mwyaf Cymru o grwpiau chwaraeon cymunedol lleol sy’n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb i bobl ifanc sy'n wynebu anfantais, mae Sported yn grymuso'r arwyr lleol sy'n cynnal grwpiau chwaraeon cymunedol i helpu eu grŵp i oroesi fel bod pobl ifanc yn eu cymunedau’n gallu ffynnu. Darperir arbenigedd proffesiynol, adnoddau a chymorth gweithredol i grwpiau cymunedol gan Sported.

Mae gwaith Sported yng Nghymru yn canolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig gyda mwy na 1/3 o'i grwpiau wedi'u lleoli yn yr 20% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nid yw pob person ifanc yn cael yr un dechrau mewn bywyd ac mae Sported yn defnyddio manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol i'w helpu i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu potensial.   

Sut gall Sefydliad Sported gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Mae Sefydliad Sported yn cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau eraill i alluogi datblygiad cymunedol hirdymor a newid cadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda StreetGames, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, a Bocsio Cymru.

Drwy Rwydwaith Chwaraeon, mae mynediad i'n platfform ar-lein yn llawn adnoddau a chanllawiau ‘sut i’, i helpu grwpiau gyda phynciau fel codi arian, ymarfer effaith a chynllunio busnes.

Byddai’n awyddus i gefnogi cyrff rheoli cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol i gefnogi gwydnwch a chynaliadwyedd eu grwpiau chwaraeon cymunedol, yn enwedig y grwpiau hynny sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig a grwpiau ar y cyrion.

Logo Sported

Esiamplau o waith Sefydliad Sported

Sported Cymru

Effaith Sported 

Cysylltu â Sefydliad Sported

Gwefan: www.sported.org.uk
E-bost: [javascript protected email address]

Facebook: @sported
Twitter: @sported_UK @sported_wales
Instagram: @sporteduk