Skip to main content

Chwaraeon mewn Ysgolion

Mae ysgolion yn chwarae rhan hanfodol mewn cael pobl ifanc i fod yn actif ac mewn sefydlu’r blociau adeiladu ar gyfer mwynhad o chwaraeon am oes.

Drwy chwaraeon cwricwlaidd ac allgyrsiol, rhaid cynnig cyfleoedd i gymryd rhan drwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu adnoddau i gefnogi athrawon a staff ysgolion yn y cam cynradd ar gyfer chwaraeon allgyrsiol mewn ysgolion cynradd.

Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i gasglu data am gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion drwy’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol.

Rydyn ni’n buddsoddi mewn awdurdodau lleol i gyflwyno rhaglenni gweithgarwch sy’n cysylltu chwaraeon ysgol gyda chwaraeon yn y gymuned leol.

Ac rydyn ni’n cefnogi rhaglenni fel rhaglen y Llysgenhadon Ifanc, sydd wedi datblygu byddin o arweinwyr ifanc ledled Cymru.

Gallwch weld mwy am ein gwaith ni gydag ysgolion isod.

Chwaraeon mewn Ysgolion
0
Fesul Tudalen: