Skip to main content

Sut i hyrwyddo eich clwb chwaraeon

Eisiau hyrwyddo eich clwb chwaraeon? Os felly, rydych chi wedi dod i'r lle iawn.

Y dyddiau yma, nid mater o gysylltu â’ch papur newydd lleol yn unig yw codi ymwybyddiaeth o’ch tîm neu glwb chwaraeon. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod ar gynnydd a, gyda phlatfformau newydd yn cael eu lansio, yn aml gall deimlo'n anodd cadw i fyny.

Beth yw manteision hyrwyddo eich clwb chwaraeon?

Gall codi ymwybyddiaeth o'ch clwb sicrhau’r canlynol: 

  • denu mwy o aelodau, o bob cefndir
  • annog mwy o wirfoddolwyr i helpu
  • helpu i sicrhau mwy o gyllid a nawdd
  • hybu morâl ymhlith aelodau a gwirfoddolwyr
  • denu mwy o gwsmeriaid a gwylwyr
  • ennyn cefnogaeth eich AS neu gynghorydd lleol

Cyngor Doeth ar gyfer hyrwyddo eich clwb chwaraeon

Ystyried eich cynulleidfa darged

Gydag ychydig o waith cartref, fe allwch chi greu cynlluniau gwych ar gyfer eich clwb chwaraeon. Bachwch bensil a phapur ac ysgrifennu beth rydych chi eisiau ei gyflawni: ydych chi eisiau denu aelodau newydd? gwirfoddolwyr newydd? Neu ydych chi'n chwilio am nawdd?

Nawr meddyliwch am eich cynulleidfa darged a gwnewch restr o'r holl lefydd lleol a grwpiau cymunedol sy'n effeithio ar y gynulleidfa honno. Cofiwch gynnwys grwpiau ar-lein - mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd grŵp Facebook sy'n postio am ddigwyddiadau a materion lleol.

Felly, os ydych chi'n chwilio am aelodau iau newydd, mae'n debygol mai rhieni, athrawon a phlant fydd eich cynulleidfa darged. A’r math o lefydd neu grwpiau a fydd o help i chi yw ysgolion, lleoliadau ar ôl ysgol, caffis, llyfrgelloedd, meddygfeydd, tudalen Facebook y gymuned leol ac ati.

Gall rhoi amser i wneud ychydig o waith ymchwil a chynllunio dalu ar ei ganfed! Dyma fan cychwyn eich cynllun cyfathrebu.

Cyngor Doeth: Rhowch amser i feddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni

Hysbysebwch eich clwb yn y gymuned leol

Unwaith y byddwch chi wedi gwneud rhestr o lefydd a grwpiau cymunedol, meddyliwch am sut gallant eich helpu. Allech chi gynnal sesiwn blasu am ddim yn eich ysgol leol neu efallai ymuno â'r uned Girlguiding leol neu grŵp Sgowtiaid?

Allech chi ollwng rhai taflenni hysbysebu yn y llyfrgell? Allwch chi roi posteri ar hysbysfyrddau lleol? Allwch chi ddiweddaru eich tudalen Facebook leol gyda'ch newyddion a'ch digwyddiadau?

Cyngor Doeth: Meddyliwch am eich ardal leol a sut mae pobl yn dod i wybod am glybiau a digwyddiadau cymunedol.

Annog tafod lleferydd

Ydyn, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn enfawr ond mae dulliau traddodiadol yn bwysig o hyd. A does dim byd yn well na thafod lleferydd. Rydyn ni i gyd yn hoffi argymhelliad da gan rywun rydyn ni'n ei adnabod!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n atgoffa'ch aelodau i ledaenu'r gair. Chwilio am nawdd? Gofynnwch iddyn nhw siarad â busnesau lleol. Angen aelodau newydd? Gofynnwch iddyn nhw wahodd eu ffrindiau.

Cyngor Doeth: Gwnewch eich aelodau yn uchelseinydd.

Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'ch clwb

Gall y cyfryngau cymdeithasol deimlo’n ormod weithiau. Mae Facebook ar gael, wedyn Instagram ac X (Twitter yn flaenorol). A na, dydyn ni ddim wedi anghofio amdanoch chi draw fan acw, Tik Tok a Threads. Ond peidiwch â theimlo bod rhaid i chi fod ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol.

Ein cyngor ni i chi ydi gwneud rhywbeth a'i wneud yn dda. Teimlo'n gyfforddus ar Facebook? Gwych, peidiwch â phoeni am Tik Tok.

Mae perygl o geisio gwneud popeth – a chyflawni fawr ddim.

Cyngor Doeth: Peidiwch â gor-wneud pethau. Os ydych chi'n dechrau arni, canolbwyntiwch ar un neu ddau blatfform efallai a’u diweddaru nhw yn gyson.

Manteisiwch ar adnoddau ac apiau ar-lein am ddim

Beth am fod yn onest, does gan lawer o glybiau ddim cyllidebau hael nac adrannau marchnata. Yn ffodus, mae llawer o adnoddau am ddim fel Canva fedr eich helpu chi i ddylunio graffeg cyfryngau cymdeithasol, posteri a chyflwyniadau.

Mae Capcut yn blatfform golygu fideos am ddim sy'n eich galluogi chi i droi fideos sy'n cael eu ffilmio ar eich ffôn clyfar yn gynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Mae Mailchimp yn adnodd am ddim gwych os ydych chi eisiau anfon cylchlythyr.

Cyngor Doeth: Ewch ar Youtube a chwilio am diwtorials ar gyfer pob ap i'ch helpu chi i ddechrau arni

Cael eich ysbrydoli gan glybiau eraill

Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn dilyn cynnydd Walton & Hersham FC, tîm o Surrey sydd ddim yn rhan o’r gynghrair. Maen nhw wedi denu mwy na miliwn o ddilynwyr ar Tik Tok. Mae hynny'n fwy na rhai o glybiau'r Uwch Gynghrair.

Drwy ffrydio gemau byw a diweddaru eu cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda riliau uchafbwyntiau, maen nhw wedi datblygu dilyniant o bob cornel o'r byd.

Cyngor Doeth: Darganfyddwch beth mae clybiau eraill (neu fusnesau bach) yn ei wneud i hyrwyddo eu hunain a meddyliwch sut gallech chi wneud rhywbeth tebyg?

Cael cyllid ar gyfer camera chwaraeon

Mae’n siŵr nad oeddech chi’n gwybod y gallech chi gael camera chwaraeon awtomatig ar gyfer eich clwb gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru?

Mae camerâu fideo awtomatig yn dod yn boblogaidd iawn oherwydd mae'n golygu eich bod chi’n gallu ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi ac wedyn rhannu eich clipiau a'ch uchafbwyntiau ar gyfryngau cymdeithasol.

Felly meddyliwch am sefydlu ymgyrch Crowdfunder ac efallai y bydd Chwaraeon Cymru yn gallu darparu arian cyfatebol drwy ein cynllun ‘Lle i Chwaraeon’

Cyngor Doeth: Gwybodaeth am sut gwnaeth Clwb Rygbi Hendy godi digon o arian i brynu camera Veo

Camera gwyrdd ar y llinell hanner ffordd ar gae chwaraeon
Camera awtomatig - yn union fel yr un cododd Clwb Rygbi'r Hendy arian ar ei gyfer.

Edrych ar gynlluniau interniaeth

Mae Clwb Futsal Caerdydd yn glwb amatur sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Yn awyddus i ehangu'r clwb, roedd yn gwybod y byddai cyfathrebu yn ganolog i dwf. Ond heb unrhyw fath o gyllideb, ni allai'r clwb logi ymgynghorydd.

Fodd bynnag, mae’r gwirfoddolwyr yno wedi mynd ati’n athrylithgar i weithio gyda Phrifysgol Met Caerdydd sydd wedi ymuno â Santander i gynnig interniaethau wedi’u cyllido i fyfyrwyr.

Mae'r clwb bellach wedi gallu penodi Swyddog Cyfathrebu. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth sydd nesaf i’r clwb. Fe allwch chi eu dilyn nhw ar Instagram a Twitter.

Cyngor Doeth: Cyfle i ddysgu am interniaethau sy’n cael eu cyllido mewn prifysgolion a cholegau yn eich ardal chi.

Creu grwpiau cyfryngau cymdeithasol preifat

Weithiau, gall grŵp cyfryngau cymdeithasol caeedig sydd ddim yn agored i’r cyhoedd ddatblygu mwy o deimlad cymunedol ac mae rhieni ac aelodau’n teimlo’n fwy cyfforddus wrth ofyn cwestiynau.

Mae Valleys Gymnastics Academy yn glwb ffyniannus yn ne Cymru. Mae ganddo grŵp Facebook caeedig ar gyfer yr aelodau er mwyn i’r hyfforddwyr allu uwchlwytho lluniau a thystysgrifau.

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Melissa Anderson, “Mae rhieni’n aml yn gofyn cwestiwn a bydd rhieni eraill yn ymateb ac yn gallu helpu felly mae gan y grŵp deimlad eithaf teuluol.”

Yn y cyfamser, mae'r clwb hefyd yn gweithredu tudalen Facebook agored sy'n hyrwyddo gweithgareddau yn ogystal â'i ethos.

Os ydych chi braidd yn ddryslyd am broffiliau, tudalennau a grwpiau Facebook, dyma rywfaint o wybodaeth ychwanegol

Cyngor Doeth: Holwch rieni ac aelodau a fydden nhw’n gwerthfawrogi grŵp caeedig

Cael ychydig o hwyl!

Wrth gwrs, does gennym ni i gyd ddim cysylltiadau â Hollywood er mwyn hudo Anthony Hopkins ar gyfer ein digwyddiad marchnata diweddaraf. Ond fe allwn ni gael ein hysbrydoli gan athrylith marchnata Ryan a Rob yn Wrecsam

Beth am gynnwys ychydig o wynebau cyfarwydd ar gyfer clipiau fideo hwyliog – efallai mai Carol yn y cigydd lleol ydi eich cefnogwr mwyaf chi ac y bydd posib iddi hi siarad am dymor newydd y clwb? Efallai y gall Dai sy’n torri’r gwair ddangos i bawb pa mor smart ydi’r cae wrth edrych ymlaen at y gêm ddydd Sadwrn?

Meddyliwch am yr holl gymeriadau gwahanol sy'n gwneud eich clwb chi’n lle gwych i fod ynddo a'u hannog i gymryd rhan. Fe fyddwch chi nid yn unig yn creu ymdeimlad o glwb hwyliog, cymdeithasol gyda’i ffocws ar y gymuned – ond hefyd mae eich negeseuon yn debygol o gael eu rhannu'n llawer ehangach. Pawb ar eu hennill.

Cyngor Doeth: Cael gwahanol gymeriadau i gymryd rhan a ffilmio clipiau fideo byr llawn hwyl

Cael sylw ar y cyfryngau lleol

Mae’n werth gwirio pa gyfryngau lleol sy’n rhoi sylw i’ch ardal chi – gallai hyn fod yn bapur newydd lleol, yn orsaf radio gymunedol neu’n wefan newyddion ar-lein.

Ac os dilynwch chi ein canllaw ni i’r wasg a’r cyfryngau, ni fydd mor anodd ag y mae'n ymddangos mewn gwirionedd. Os gallwch chi, gofynnwch iddyn nhw a fydden nhw’n hoffi cael diweddariadau a lluniau rheolaidd ac oes ganddyn nhw derfynau amser. Fe allwch chi wella eich siawns o gael sylw drwy ddarparu'r union beth sydd arnyn nhw ei angen, pan fydd arnyn nhw ei angen.

Cyngor Doeth: Ewch ati i lunio rhestr o gyfryngau ar gyfer eich ardal leol a nodwch fanylion cyswllt, dyddiadau cau ac unrhyw fanylion eraill

Creu gwefan am ddim neu am bris isel

Mae rhai clybiau’n teimlo nad oes arnyn nhw angen gwefan ac yn hytrach maen nhw’n gwneud yn siŵr bod eu tudalen Facebook yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. Ac mae hynny'n hollol iawn.

Ond os yw eich clwb yn dal i deimlo bod arno angen gwefan, peidiwch â phoeni – does dim rhaid i chi fod yn ddylunydd graffeg. Mae digon o blatfformau am ddim neu am bris isel, fel Wordpress, ar gael.

Mae My Sports ClubPitchero yn cynnig tudalennau templed hefyd, yn barod i chi eu golygu.

Cyngor Doeth: Dilynwch ein hawgrymiadau i'ch helpu chi i ddechrau arni. 

Mynd ar Google i chwilio am fy musnes

Trowch bobl sy'n dod o hyd i chi ar Google Search a Maps yn gwsmeriaid newydd gyda phroffil busnes am ddim i'ch clwb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu gwybodaeth fel rhif cyswllt, oriau agor a'ch logo. Cysylltwch eich gwefan a'ch sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegu lluniau cyfeillgar i'ch helpu i fod yn unigryw a rhoi teimlad o'ch clwb i bobl.

Cyngor Doeth: Annog adolygiadau ac ymateb yn gyflym i feithrin ymgysylltu.

Cofiwch Ddirprwyo!

Mae’n bosibl bod gennych chi ddarpar grëwyr cynnwys disglair, neu newyddiadurwyr chwaraeon gwych, yn y clwb eisoes.

Beth am sefydlu rheolaeth ar eich cyfryngau cymdeithasol? Yr hyn sy’n digwydd ydi bod brand neu sefydliad yn gadael i rywun bostio ar y ffrydiau cyfryngau cymdeithasol am ddiwrnod. Mae’n galluogi pobl i gael cipolwg ar brofiadau rhywun arall o’r clwb ac fe all fod yn ffordd dda o gael rhywfaint o gynnwys ffres.

Neu beth am ddefnyddio Gohebydd Ieuenctid i ysgrifennu adroddiad gêm neu stori ar gyfer eich gwefan?

Gall rhoi cyfle i aelodau neu wirfoddolwyr gymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo eich clwb fod yn brofiad gwych i rywun sy'n ceisio llenwi ei CV.

Cyngor Doeth: Hysbysebwch am gyfranwyr ar gyfryngau cymdeithasol neu yn eich clwb

 

A chofiwch, er ei fod yn hwyl ac yn werth chweil hyrwyddo eich clwb chwaraeon, mae'n bwysig iawn cadw’n ddiogel ar-lein, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy