Skip to main content

Addysg ac Athrawon

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio’n agos gyda’r sector addysgu yng Nghymru i ddarparu cyngor, adnoddau a chyllid i ddatblygu unigolion actif sy’n gallu mwynhau chwaraeon am oes.

Mae ein gwaith ar gyfer pob math o amgylcheddau addysg. Mae ysgolion yn hynod bwysig, ond felly hefyd meithrinfeydd, colegau, sefydliadau addysg uwch ac eraill sy’n darparu dysgu mewn gwahanol gamau ym mywyd person.

Mae ein hamcan yn syml – pob person yng Nghymru yn Llythrennog yn Gorfforol.

Beth yw Llythrennedd Corfforol?

Sgiliau Corfforol +Hyder +Cymhelliant + Gwybodaeth + Dealltwriaeth = Llythrennedd Corfforol 

Gyda’r elfennau yma mae person yn fwy tebygol o fod yn llythrennog yn gorfforol – bod yn hapus, iach a hyderus – a hefyd cael yr adnoddau i fwynhau bod yn actif.

Mae’r ffilm fer yma’n symleiddio beth rydyn ni’n ei olygu wrth gyfeirio at lythrennedd corfforol.

 

Y Siwrnai Llythrennedd Corfforol

Nid dim ond i bobl ifanc mae llythrennedd corfforol yn berthnasol. Mae’n siwrnai o enedigaeth, yn ystod y cyfnod yn yr ysgol, pan yn oedolyn ac yn nes ymlaen mewn bywyd – gyda’r profiadau ar hyd y daith i gyd yn cyfrannu at lythrennedd corfforol person. 

(physical literacy journey poster)

Mae’n bwysig archwilio a chael hwyl gyda rhieni a gofalwyr yn y blynyddoedd cynnar. Ac mae yr un mor bwysig bod yn fodel rôl ar ôl mynd yn hŷn, drwy drosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd ac agweddau allweddol ar wybodaeth i’r genhedlaeth nesaf. 

Rydyn ni eisiau i bawb, gan gynnwys plant, rhieni, teidiau a neiniau, athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr ifanc, chwarae eu rhan ar y siwrnai llythrennedd corfforol.

Mae ysgolion yn hynod bwysig ar gyfer y gwaith hwn gan eu bod yn chwarae rhan mor hanfodol yn natblygiad pobl ifanc ac yn gallu dylanwadu ar beth sy’n digwydd y tu hwnt i giât yr ysgol. Fodd bynnag, ni all addysg ar ei phen ei hun gyflawni hyn gan fod llythrennedd corfforol yn siwrnai oes i bob unigolyn. Mae pawb yn unigryw gyda gwahanol brofiadau bywyd, amgylcheddau a chyfranwyr ar hyd y daith. 

Lle Chwaraeon Cymru fel sefydliad yw helpu i ddod â’r bobl briodol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth mawr ar draws pob cymuned yng Nghymru. Mae mwy o waith ar y cwricwlwm newydd ar gael isod.

Ein Hadnoddau

Mae gennym ni ddau adnodd y gall unrhyw un eu defnyddio i helpu i ddatblygu sgiliau a hyder pobl ifanc.

Chwarae i Ddysgu 

Adnodd i helpu plant 3 i 7 oed (cyfnod sylfaen) i wella eu Datblygiad Corfforol a’u sgiliau Symud Creadigol.

Mae Chwarae i Ddysgu yn ymwneud â defnyddio gemau hwyliog a datblygu sgiliau a hyder sy’n gwbl greiddiol i weithgareddau chwaraeon.

Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig 

Y cam nesaf ar yr ystol sgiliau chwaraeon ar ôl Chwarae i Ddysgu ac mae Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig ar gyfer plant 7 i 11 oed. Y nod yw i bobl ifanc ddatblygu sgiliau corfforol allweddol sy’n berthnasol ac yn drosglwyddadwy ar draws amrywiaeth o wahanol chwaraeon.

Aml-Sgiliau’r Ddraig

Mae Aml-Sgiliau’r Ddraig yn rhoi sylw i ddatblygu sgiliau symud sylfaenol – ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad – yr ABC. Mae pob plentyn yn datblygu yn ei amser ei hun felly mae’r sesiynau’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc a’r gweithgareddau’n cael eu cynllunio i gefnogi eu datblygiad corfforol mewn ffordd gynyddol.

Campau’r Ddraig 

Yn dilyn Aml-Sgiliau’r Ddraig mae Campau’r Ddraig. Wrth i sgiliau sylfaenol plentyn ddatblygu, bydd yn cael ei gyflwyno i fwy o weithgareddau penodol i chwaraeon, gan gynnwys:

1. Athletau
2. Criced
3. Pêl Droed
4. Golff
5. Hoci
6. Pêl Rwyd
7. Rygbi
8. Tennis

Beth arall ydyn ni’n ei wneud ym myd addysg?

Yn ogystal â datblygu adnoddau, rydyn ni’n buddsoddi mewn partneriaid fel awdurdodau lleol i ddatblygu chwaraeon mewn ysgolion a’r cysylltiadau gyda’r gymuned leol. 

Hefyd rydyn ni’n casglu ymchwil a gwybodaeth, gan gynnwys yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol nodedig.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Youth Sport Trust i gynnal rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys ein partneriaeth gyda sefydliad Colegau Cymru.

Y Dyfodol – Y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar elfennau chwaraeon y cwricwlwm newydd.

Bydd y cwricwlwm, sy’n cael ei lunio ar hyn o bryd, yn seiliedig ar lythrennedd corfforol. Wedi’i ddatblygu gan y proffesiwn addysgu ar gyfer y proffesiwn addysgu, gyda chefnogaeth arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol, bydd y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant, ar ôl ei gwblhau, yn esiampl o safon byd o sut gellir gweithredu llythrennedd corfforol ym myd addysg, gan ddarparu sylfaen ar gyfer dysgu i’r rhai 3 i 16 oed. 


 

Addysg ac Athrawon
0
Fesul Tudalen: