Skip to main content

Nodau i’ch clwb chwaraeon yn 2024

Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweld hyfforddwyr a gwirfoddolwyr chwaraeon ledled Cymru yn cymryd camau i dyfu, arallgyfeirio a datblygu eu clybiau.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob person yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i fod yn actif a’r llynedd fe wnaethon ni gefnogi rhai prosiectau gwych a helpodd i wneud yn union hynny. Roedden ni eisiau rhannu rhai o’r rhain gyda chi, fel eich bod yn gallu cael ysbrydoliaeth ar gyfer eich clwb yn 2024.

Addasu eich sesiynau ar gyfer pobl ag anghenion gwahanol 

Yn ôl fersiwn diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn rheolaidd. 

Mae llawer o resymau pam na fydd rhywun eisiau cymryd rhan efallai, ac rydyn ni’n gwybod bod y lefelau cyfranogiad yn parhau i fod yn is na’r cyfartaledd ar gyfer merched, oedolion anabl a’r rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol.

Gall eich clwb chi wneud sesiynau’n fwy cynhwysol i bobl sy’n profi rhwystrau i chwaraeon drwy addasu ei sesiynau i ddiwallu eu hanghenion. Dyma rai o’n hoff enghreifftiau ni: 

Pedwar aelod o glwb feterans y merched yn chwarae bowls ar y lawnt
Merched feterans yn chwarae bowls yng Nghlwb Bowls Rhiwbeina

Dod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol  

Wnaeth tywydd poeth iawn neu law trwm atal eich clwb chi rhag chwarae y llynedd? Wrth i’r tywydd ddod yn fwy anrhagweladwy, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gwarchod ein hamgylcheddau chwaraeon rhag effeithiau newid hinsawdd.

Yn ddiweddar, ymunodd Chwaraeon Cymru â Chymdeithas Chwaraeon Cynaliadwy Prydain i gynnig adnoddau i glybiau a phrosiectau cymunedol i’w cefnogi i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar. Bydd gwneud newidiadau yn eich clwb nid yn unig yn llesol i'r amgylchedd ond hefyd gall arbed arian ar eich biliau ynni i chi. Pawb ar eu hennill!

Felly eleni, beth am edrych ar ein cyngor doeth ni i ddod yn glwb chwaraeon mwy amgylcheddol gynaliadwydod o hyd i ble i ailgylchu eich hen git chwaraeon fel bod eich clwb yn gallu dechrau rhoi yn ôl i’r blaned.

Pori drwy’r adnoddau.

Siarad mwy o Gymraeg 

Siarad Cymraeg?

Mae mwy na 500,000 o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg, felly gall cynnig sesiynau Cymraeg, neu ddim ond cynnwys geiriau Cymraeg yn eich gweithgareddau o ddydd i ddydd, helpu siaradwyr Cymraeg i deimlo'n gyfforddus yn eich clwb.

Yn paratoi'r ffordd mae Clwb Pêl Rwyd Llewod Llambed. Gyda 75% o'r aelodau’n siarad Cymraeg, maen nhw’n cynnig pêl rwyd yn y Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n golygu y gall chwaraewyr lleol gael mynediad at chwaraeon yn eu hiaith gyntaf. 

Mae’n hawdd iawn dechrau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich sesiynau gyda chanllaw Comisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwaraeon. Ewch amdani! 

Merch yn anelu at gôl mewn pêl-rwyd
Chwaraewyr yng nghlwb pêl-rwyd Llewod Lambed

Anelu am Amrywiaeth ar eich Pwyllgor 

Mae gwneud yn siŵr bod y bobl ar eich pwyllgor yn dod o gefndiroedd gwahanol yr un mor bwysig â sicrhau bod ganddynt setiau sgiliau neu arbenigedd gwahanol. Os yw aelodau eich pwyllgor yn rhannu’r un rhywedd, oedran a hil, mae perygl y bydd gennych safbwyntiau cyffredin nad ydynt yn adlewyrchu eich clwb na’ch cymuned.

Gallai aelod o'r clwb deimlo mwy o anogaeth a chael mwy o ymddiriedaeth mewn bwrdd sydd â chynrychiolwyr o'r un cefndir ag ef. Gall safbwyntiau a phersbectif gwahanol herio clwb chwaraeon i wella a dod yn fwy cynhwysol.

Mae gwneud yn siŵr bod bwrdd eich clwb yn cynrychioli pobl o bob cefndir nid yn unig yn wych i aelodau eich clwb, ond hefyd i gael mwy o bobl yn eich cymuned i gymryd rhan.

Pan fyddwch yn recriwtio ar gyfer aelodau pwyllgor, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn ystyried:

  • Rhywedd 
  • Oedran 
  • Crefydd 
  • Anabledd 
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol 

A chofiwch gael aelodau’r clwb i gymryd rhan hefyd!             

Mwy o wybodaeth am bwyllgorau.

Cael cyllid ar gyfer eich clwb 

Un o’r ffyrdd y gallwn ni gefnogi clybiau gyda’r newidiadau hyn yw drwy gyllid. Os mai 2024 yw’r flwyddyn y byddwch chi’n uwchraddio adeilad eich clwb, neu’r flwyddyn y byddwch chi’n dechrau grŵp newydd yn eich clwb, fe allwn ni helpu.

Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau i glybiau sydd eisiau gwella’r cyfranogiad mewn chwaraeon yn eu hardal, a gall ein Cronfa Lle i Chwaraeon eich helpu i sicrhau cyllid cyfatebol ar gyfer gwelliannau oddi ar y cae yr ydych yn defnyddio Cyllid Torfol i godi arian ar eu cyfer!

Mae mwy o wybodaeth am ein cronfeydd ni ar gael isod.

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy