Mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno â Physique i fod yn gyflenwr cynhyrchion cymeradwy ar gyfer Athrofa Chwaraeon Cymru sy’n athrofa perfformiad uchel.
Mae Physique Management wedi cyflenwi cynhyrchion gofal iechyd chwaraeon i weithwyr meddygol proffesiynol, defnyddwyr a thimau chwaraeon elitaidd ers dros 20 mlynedd. Gyda chwsmeriaid sy’n cynnwys Hoci Prydain Fawr, yr Harlequins, Clwb Pêl Droed Portsmouth a Phêl Rwyd y Wasps, mae gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod eu cynhyrchion yn ddibynadwy yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol.
Mae’r cyswllt yn golygu manteision i athletwyr Chwaraeon Cymru a defnyddwyr gwefan Chwaraeon Cymru.
Drwy ymweld â Physique drwy wefan Chwaraeon Cymru, gallwch gael gostyngiad o 10%. Mae’r gostyngiad o 10% yn berthnasol i eitemau nad ydynt yn rhan o unrhyw gynnig arbennig yn unig.
Hefyd mae cyfle i arbed hyd at 25% oddi ar fwy na 100 o Hanfodion Therapi o dan eu cynnig cymysgu a chyfateb 4 am 3. Mae cynigion rheolaidd a gwerth ychwanegol ar gael hefyd.